Dywedwch wrthym am eich sefydliad
Mae Hodge yn fusnes gwasanaethau ariannol annibynnol yng Nghaerdydd, sy’n cynnig amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau. Gall Hodge olrhain ei hanes mor bell yn ôl â’r 1960au pan sefydlwyd y busnes gan y diweddar Syr Julian Hodge sy’n cael ei gydnabod fel y sbardun i greu sylfaen y maes gwasanaethau ariannol llwyddiannus ar draws De Cymru.
Mae Hodge yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion cynilo personol i gwsmeriaid preifat yn ogystal â benthyca i gleientiaid masnachol ledled y wlad. Mae’r busnes hefyd yn darparu morgeisi arbenigol mewn marchnadoedd arbenigol gan gynnwys rhai ar gyfer cyfnod diweddarach yn eich bywyd ac ar gyfer prynu i osod.
Hodge Foundation, elusen sy’n cefnogi amrywiaeth o achosion lles, meddygol ac addysgol sy’n berchen ar 79% o Hodge.
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Hodge www.hodgebank.co.uk.
Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Mae Hodge yn frwd dros gefnogi a chydnabod y gwerth y mae menywod yn ei gyfrannu at gymdeithas, ac yn enwedig yn y gweithle.
Rydym yn gwybod bod menywod yn gallu ac yn gwneud gwahaniaeth, rydym ni’n gweld hyn bob dydd yn ein busnes drwy’r arweinyddiaeth eithriadol ac ansawdd y gwaith y mae ein gweithwyr yn ei gyflawni dros ein cwsmeriaid. Mae cydnabod a meithrin dawn yn rhan o’n hethos fel busnes ac mae’n hanfodol i’n strategaeth a’n twf yn y dyfodol.
Mae noddi’r categori Seren Ddisglair yn Womenspire yn gyfle gwych i ni barhau i hyrwyddo’r rôl y bydd menywod yn parhau i’w chwarae wrth gylawni llwyddiant busnes.
Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?
Credwn fod pobl ar eu gorau pan gânt y cyfle i ddisgleirio.
Mae ymchwil byd-eang gan Fforwm Economaidd y Byd, ymchwil genedlaethol gan Swyddfa Gydraddoldebau’r Llywodraeth, a chanfyddiadau gan Chwarae Teg yn dangos buddion amlwg hyrwyddo cyfleoedd i bawb, yn enwedig yn y gweithle.
Mae calon ein busnes yn ymwneud â chreu amgylchedd lle gall pawb ffynnu a chyflawni eu gwir botensial. Ein cynlluniau twf uchelgeisiol dros y blynyddoedd nesaf. Dros y blynyddoedd nesaf mae ein cynlluniau twf yn uchelgeisiol, ac mae ein pobl yn allweddol er mwyn i ni gyflawni’r llwyddiant hwnnw. Bydd meithrin cydraddoldeb a chreu amgylchedd sy’n cefnogi ac yn datblygu’r menywod yn Hodge yn hanfodol i’n dyfodol.
Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?
Mae gennym ddull unigryw o ran ein mentrau amrywiaeth a chynhwysiant sy’n cael ei hyrwyddo a’i redeg gan dîm o weithwyr brwd sydd am greu’r amgylchedd gwaith gorau i’w cydweithwyr - Wonder.
Mae Wonder yn grymuso’r menywod yn Hodge trwy ddarparu cyfleoedd cyfartal, annog addysg, mentora a rhwydweithio - sy’n ysgogi newid diwylliannol ar draws y busnes.
Mae nod Chwarae Teg - sef sicrhau bod menywod yng Nghymru yn gallu ymuno â’r gweithle, datblygu eu sgiliau ac adeiladu gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad iddynt - yn cyd-fynd â’r ffordd rydym ni’n cefnogi cydraddoldeb yn Hodge.