Dywedwch wrthym am eich sefydliad
Ein diben yw hyrwyddo potensial, gan gynorthwyo pobl, teuluoedd, cymunedau a’r busnesau sy’n rhan ohonynt i ffynnu. Gyda dros 35,000 o gwsmeriaid busnes a masnachol a 638,000 o gwsmeriaid manwerthu yng Nghymru, rydym yn credu mewn grymuso’r bobl rydym yn eu cefnogi gyda’u harian a’u diogelu hefyd trwy fentrau fel Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau. Credwn yn gryf mewn busnesau yng Nghymru a dyna pam fod gennym £0.8 biliwn mewn benthyciadau ar gyfer busnesau bach a chanolig. Rydym am weld mwy o entrepreneuriaid benywaidd yn llwyddo ac yn falch ein bod wedi cefnogi 359 o entrepreneuriaid o’n hwb yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cyfrannu at ecosystem ariannol gryfach, sydd hefyd yn cael ei chefnogi gennym trwy 558 o ysgolion sydd wedi’u cofrestru ar gyfer ein rhaglen addysg ariannol MoneySense a 44,000 o brofion iechyd ariannol a gyflawnwyd ar gyfer ein cwsmeriaid.
Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Rydym ni [NatWest Cymru] am ddathlu a chydnabod modelau rôl ysbrydoledig. Mae’r gwaith ymchwil a gyflawnwyd gennym yn dangos bod un o’r themâu mwyaf cyffredin sy’n codi o hyd yw’r diffyg modelau rôl hygyrch y gellir ymdeimlo â nhw ac mae’r gwobrau yn llwyfan anhygoel i roi sylw i fenywod ysbrydoledig a chydnabod y sgiliau, gwybodaeth ac uchelgais y mae’r enwebeion yn eu cynnig nid yn unig i’w cymuned leol ond i’r economi yng Nghymru hefyd.
Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?
Mae cydraddoldeb rhywedd o fudd i bawb ac mae ymdrechu i sicrhau cydbwysedd gwell rhwng menywod a dynion, trwy helpu menywod i ddatblygu’n gyflymach, yn ffocws mawr, nid yn unig i mi, ond hefyd i’r banc, gan sicrhau ein bod yn creu gweithlu mwy amrywiol i staff. Rydym hefyd yn cefnogi ac yn annog mwy o fenywod i ystyried dechrau eu busnesau eu hunain. Mae entrepreneuriaid benywaidd a busnesau a arweinir gan fenywod yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi genedlaethol ond mae potensial enfawr sydd heb gael ei gyffwrdd o hyd. Mae ein hymrwymiad i gefnogi mwy o fenywod i lwyddo mewn busnes yn mynd y tu hwnt i wasanaethau ariannol. Trwy ein rhaglen Merched mewn Busnes, rydym yn darparu cefnogaeth unigryw ar gyfer entrepreneuriaid benywaidd – o’u cyflwyno i sefydliadau perthnasol i gefnogaeth ddiriaethol o ddydd i ddydd.
Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?
Mae NatWest Cymru yn angerddol am helpu mwy o fenywod i gyflawni eu huchelgeisiau ac rydym yn cefnogi’r gwaith y mae Chwarae Teg yn ei gyflawni gan fod cymaint o synergeddau a chyfleoedd i gefnogi ac ymhelaethu ar y gwaith a gyflawnir gan Chwarae Teg.