Noddwr Womenspire 2021 Niche IFA

20th September 2021

Dywedwch wrthym am eich sefydliad

P’un a ydych chi eisiau ymddeol yn gynnar, prynu eich cartref cyntaf neu gymryd rheolaeth o’ch cyllid, mae Niche IFA yn cynnig cyngor ariannol annibynnol am ffi sefydlog sy’n bwrpasol i’ch sefyllfa. Rydym yn darparu ystod gynhwysfawr o gyngor ar bensiynau ac ymddeol, cynllunio llif arian, cynilion a buddsoddiadau, cynllunio ystadau a llawer mwy.

Mae ein tîm wedi’i leoli yng Nghasnewydd, De Cymru, wrth ymyl Twneli Brynglas. Mae gennym hefyd nifer o fannau cyfarfod ar gael yn Llanelli, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Bryste, Swindon, Llundain a Swydd Gaerlleon. Yn yr sefyllfa bresennol, rydym hefyd yn gallu cynnig gwasanaeth o bell i gleientiaid.

Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?

Yn ddiweddar, gwnaed cymaint o gynnydd i unioni anghydbwysedd rhwng y rhywiau a chynyddu amrywiaeth yn y gweithle. Mae’r gwaith hwnnw wedi’i wneud gan sefydliadau fel Chwarae Teg a gan y gymdeithas. Mae hefyd wedi’i wneud gan elusennau, busnesau a sefydliadau, a gan y gweithwyr eu hunain. Mae angen i ni gydnabod yr arferion a’r cyflawniadau gorau yn y gwaith a gwneud y swyddfa yn llawer mwy cynrychioliadol o’r byd go iawn. Mae pawb yn haeddu’r cyfle i lwyddo yn eu bywydau personol a’u gyrfaoedd, ac mae’r Gwobrau Womenspire yn rhoi cyfle i daflu goleuni ar y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig.

Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?

Yma yn Niche, rydym yn frwdfrydig dros sefydlu a datblygu’r genhedlaeth nesaf o gynghorwyr ariannol a fydd yn gwasanaethu’r genhedlaeth nesaf o gleientiaid. Mae hynny’n golygu sicrhau ein bod yn cyfateb â’n demograffig cyn belled ag y bo modd. Mae’r cyfnod o gael swyddfeydd llawn mwg a dynion yn prysur ddiflannu. Heddiw, mae’r diwydiant gwasanaethau ariannol yn cynnig cyfle go iawn i fenywod symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Ond mae mwy i’w wneud o hyd o fewn sefydliadau er mwyn unioni’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau. Er bod cymaint o gynnydd wedi’i wneud hyd yn hyn, mae’n amser unwaith eto i barhau â’r drafodaeth.

Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?

Dechreuodd Niche ei waith gyda Chwarae Teg yn 2017, gan gwblhau’r rhaglen Gwobr Enghreifftiol, sy’n canolbwyntio ar gydnabod a datblygu’r arferion a’r gweithdrefnau amrywiol yn ein cwmni. Mae gwaith o’r fath yn annog busnesau bach a chanolig fel Niche i ganolbwyntio ar recriwtio a datblygu nid yn unig menywod, ond eraill o feysydd heb gynrychiolaeth ddigonol a chael gwared ar rwystrau uniongyrchol ac anuniongyrchol i gamu ymlaen mewn gyrfa. Mae gwaith Chwarae Teg i frwydro yn erbyn y rhwystrau hyn ledled Cymru wedi bod yn unigryw, ac rydym yn falch o gael chwarae rhan yn y daith.