Noddwr Womenspire 2021 Race Equality First

27th July 2021

Dywedwch wrthym am eich sefydliad

Mae gan Race Equality First 45 mlynedd o brofiad fel y corff arweiniol cydnabyddedig yng Nghymru ar gyfer mynd i’r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb a hyrwyddo’r neges fod cydraddoldeb hiliol yn hawl ddynol. Rydym yn cefnogi dioddefwyr troseddau casineb a gwahaniaethu drwy wasanaeth gwaith achos penodol ac rydym yn darparu hyfforddiant cydraddoldeb ar gyfer sefydliadau ynghyd ag eiriolaeth ar gyfer pobl o leiafrifoedd ethnig sy’n profi rhwystrau wrth gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Mae’n holl waith yn bwydo i mewn i’n hymrwymiad i ymchwilio i hiliaeth a throseddau casineb yng Nghymru ac ymgyrchu i’w gwrthsefyll.

Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?

Rydym wedi gweithio gyda Chwarae Teg eleni ac mewn blynyddoedd blaenorol i annog mwy o fenywod o leiafrifoedd ethnig i ddathlu eu cyflawniadau. Rydym eisiau gweld talentau holl fenywod a merched Cymru yn cael eu cydnabod gan fod pobl o leiafrifoedd ethnig yn aml yn cael eu tangynrychioli ymysg yr unigolion sy’n cyrraedd rownd derfynol llawer o wobrau yng Nghymru.

Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?

Mae cydraddoldeb i bawb yn sail i ethos Race Equality First a dyna yw sylfaen ein sefydliad. Rydym eisiau gweld cymdeithas lle mae gan bawb hawliau cyfartal ac nid oes gwahaniaethu yn seiliedig ar unrhyw nodwedd bersonol sydd ganddynt.

Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?

Mae ein nodau wedi’u halinio’n agos fel partneriaid cydraddoldeb trydydd sector yng Nghymru. Mae Chwarae Teg yn darparu arweinyddiaeth a llais dylanwadol ar gyfer menywod yng Nghymru. Yn yr un ffordd ag y mae Chwarae Teg yn hyrwyddo cydraddoldeb a grymuso menywod a merched yng Nghymru, mae Race Equality First yn ymrwymedig i greu cymdeithas deg a chyfiawn lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydynt.