Dywedwch wrthym am eich sefydliad
Rydym yn gwmni blaengar, sydd â’r nod o drawsnewid profiadau cwsmeriaid. Rydym yn gweithio gyda brandiau gwasanaethau ariannol yn y DU ac yn Ewrop i greu teithiau effeithlon ac effeithiol drwy gydol y cylch oes ariannol. Ein pobl yw’r allwedd i ddarparu ein gwasanaethau.
Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Weithiau gall menywod fod yn dawelach pan ddaw’n fater o weiddi am lwyddiannau. Mae angen i hynny newid. Mae Womenspire yn llwyfan gwych i ddathlu ein llwyddiannau – gyda’n gilydd. Mae’n ddigwyddiad emosiynol iawn, gyda dilynwyr gwych – mae’n ddigwyddiad y mae’n rhaid i ni fod yn rhan ohono! Rydym wedi bod yn rhedeg y rhaglen #IamRemarkable yn Target i annog ein menywod (a’n dynion) i floeddio am eu buddugoliaethau. Mae’n rhan mor bwysig o’n holl ddatblygiad a thwf personol.
Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?
Yn draddodiadol, mae’r Gwasanaethau Ariannol yn ddiwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion. Rydym yn dechrau gweld rhywfaint o newid gwirioneddol yn y sector, wedi’i yrru gan sefydliadau fel Chwarae Teg, arweinwyr fel Anne Boden, a mentrau fel Siarter Menywod mewn Cyllid. Gwyddom fod cael diwylliant amrywiol, sy’n canolbwyntio ar lesiant a datblygiad, yn dod â gwell canlyniadau i’n cwsmeriaid ac i’n cwmni.
Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?
Mae’n bwysig iawn i ni fod y menywod yn ein busnes, ac yn y diwydiant ehangach yn cael eu cefnogi yn eu nodau personol. Mae gwneud hyn yn golygu mwy na newid rheolau a dylanwadu ar bolisi. Mae’n ymwneud â grymuso menywod i fod yn bopeth y gallant fod. Mae Chwarae Teg yn hyrwyddo’r grymuso hyn, gan greu rhwydwaith cefnogol ac ymgysylltiol, creu cyfle, a chreu arweinwyr y dyfodol. Mae ein hamcanion yn debyg iawn!