Noddwr Womenspire 2021 Trafnidiaeth Cymru

20th August 2021

Dywedwch wrthym am eich sefydliad

Mae Trafnidiaeth Cymru yn bodoli er mwyn hybu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth o ansawdd uchel sy’n ddiogel, wedi’i integreiddio, yn fforddiadwy ac yn hygyrch y mae pobl Cymru yn gallu bod yn falch ohono.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar wella cysylltedd – drwy gynllunio, comisiynu a rheoli rhwydweithiau trafnidiaeth effeithlon a thrwy ddefnyddio’r sgiliau gorau o bob rhan o ddiwydiant, y llywodraeth a chymdeithas. Gyda’n gilydd, rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n barod am y dyfodol ac sy’n cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor Cymru a’r cymunedau sy’n gysylltiedig â ni, gan gyflawni saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?

Mae’r gwobrau Womenspire yn gyfle gwych i gydnabod cyflawniadau a chyfraniadau menywod yng Nghymru. Rydym yn falch o gefnogi’r gwobrau ac yn helpu i barhau i dynnu sylw at y gwaith y mae Chwarae Teg a sefydliadau ledled Cymru yn ei gyflawni er mwyn creu amgylchedd sy’n caniatáu i bawb lwyddo.

Mae cefnogi’r gwobrau yn dangos ein hymrwymiad ein hun at greu’r amgylchedd hwnnw o fewn Trafnidiaeth Cymru ac yn helpu i ysbrydoli ac annog ein pobl ein hunain.

Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwerth ar amrywiaeth. Mae’n ein gwneud ni’n gryfach ac yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau gwell, a bod yn fwy dyfeisgar.

Mae pawb yn wahanol ac mae ganddynt eu safbwynt eu hunain, felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Trwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr cynhwysol blaenllaw Cymru.
Mae cyflawni cydraddoldeb rhywiol ar draws ein sefydliad yn agwedd bwysig ar greu amgylchedd gwaith cadarnhaol i bawb, yn ogystal ag arwain at gyflawni’n well i’n cwsmeriaid.

Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?

Mae Chwarae Teg yn un o brif elusennau cydraddoldeb rhywiol ac mae’n chwarae rhan bwysig i helpu menywod yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau ac adeiladu eu gyrfaoedd. Bydd gweithio gyda nhw yn ein helpu i sicrhau bod bob un ohonom yn cael y cyfle i gyrraedd ein potensial llawn.

Bydd ein partneriaeth gyda Chwarae Teg yn rhoi mynediad at lu o adnoddau a chefnogaeth inni wrth i ni weithio tuag at sicrhau cydraddoldeb ar draws ein sefydliad.