Soniwch ychydig am eich sefydliad.
Mae Opel Vauxhall Finance yn gwmni cyllid sy’n diwallu anghenion symudedd ein cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau ariannol i’r brand Vauxhall. Mae ein tîm yn parhau â’n taith lwyddiannus trwy ganolbwyntio ar ein prif werthoedd sef Canolbwyntio ar y Cwsmer, Hyblygrwydd, Cydweithio, Atebolrwydd a Didwylledd.
Pam ydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi llwyddiannau hynod menywod yng Nghymru am y trydydd blwyddyn ac yn awyddus i hyrwyddo’n cwmni fel cyflogwr posibl i fenywod uchelgeisiol yng Nghymru.
Mae gan Opel Vauxhall Finance rwydwaith mewnol i ysbrydoli menywod, y Women’s Inspirational Network. Mae’r rhwydwaith yn annog menywod i ffynnu mewn amgylchedd ble mae cyfran helaeth o’r gweithlu yn ddynion. Mae’r rhwydwaith yn cynorthwyo gyda’r gwaith o recriwtio, cadw a datblygu unigolion talentog ymhob rhan o’r cwmni. Mae wedi ymrwymo i ysbrydoli newidiadau cadarnhaol er mwyn annog twf ac angerdd at y busnes.
Pam mae cydraddoldeb rhywiol yn bwysig i chi?
Yn Opel Vauxhall Finance, rydyn ni’n credu bod cydraddoldeb yn fater o sicrhau fod pawb, waeth beth fo’u rhywedd, oedran, cefndir a chenedligrwydd, yn cael yr un cyfleoedd.
Mae’r diwydiant cyllid modurol yn faes sydd wedi’i gysylltu â dynion yn draddodiadol. Rydyn ni’n awyddus i annog mwy o fenywod i ymgeisio am swyddi gyda ni wrth i ni geisio datblygu gwell cydbwysedd rhwng y rhywiau o fewn y cwmni.
Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i gyflawni’n nod o sicrhau gweithlu gwir gynhwysol a dyma un o’n blaenoriaethau strategol craidd.
Pam ydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?
Mae Chwarae Teg yn hyrwyddwr gwych dros gydraddoldeb rhywedd. Mae rhai o’n staff wedi manteisio ar y Rhaglenni. Mae’n elusen anhygoel yr ydym yn falch o gydweithio â hi.