Noddwr Womenspire 2021 Wales and West Housing

2nd August 2021

Dywedwch wrthym am eich sefydliad

Ni yw Wales & West Housing ac mae gennym 50 mlynedd o brofiad mewn darparu tai cymdeithasol yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw sicrhau twf cryf, cynaliadwy er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, eu cartrefi a’u cymunedau.

Rydym yn rheoli mwy na 12,000 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel mewn 15 o ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys mwy na 3,000 eiddo penodol ar gyfer pobl hŷn yn ogystal ag atebion arloesol o ran tai â chymorth i bobl sydd ag amrywiaeth o anghenion penodol.

Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?

Dangosodd ein monitro cydraddoldeb 2019 fod 54% o’n holl drigolion yn fenywod ac mai menywod yw 66% o’n staff, felly rydym wir yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniad a’r gwahaniaeth y mae menywod yn ei wneud bob dydd yn y gweithle ac yn ein cymunedau.

Mae noddi gwobrau Womenspire yn ein galluogi i gydnabod a dathlu llwyddiannau menywod o bob cefndir ac ym mhob cyfnod o’u bywydau neu waith ledled Cymru.

Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?

Pan fo menywod â’r un hawliau a chyfleoedd â dynion ar draws pob sector o gymdeithas, gan gynnwys cyfranogiad economaidd a gwneud penderfyniadau, a phan fo gwahanol ymddygiadau, dyheadau ac anghenion menywod a dynion yn cael eu gwerthfawrogi a’u ffafrio fel ei gilydd, mae’r ddynoliaeth i gyd ar ei hennill.

Mae cydraddoldeb rhywiol yn helpu i fynd i’r afael â thlodi, anllythrennedd, a chamdriniaeth ar draws y byd. Gall arwain at well gofal iechyd, gan arbed bywydau yn llythrennol, gwell amddiffyniadau cyfreithiol a gwell cydraddoldeb hiliol.

Rydym yn credu fod cydraddoldeb rhywiol yn ein helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.

Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?

Rydym yn cytuno’n angerddol â gweledigaeth Chwarae Teg o Gymru lle mae pob menyw a merch yn cael eu trin yn gyfartal, yn gallu cymryd rhan lawn yn yr economi, ac mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol a byw’n ddiogel rhag trais ac ofn. Felly, mae’n bleser gennym gymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd partneriaeth a hyrwyddo er mwyn i’r neges hon gael ei chlywed yn glir.