Noddwr Womenspire 2021 Sefydlwyd y Brifysgol Agored (OU)

20th July 2021

Dywedwch wrthym am eich sefydliad

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw prif ddarparwr Cymru o addysg uwch ran-amser i israddedigion. Rydym yn hyrwyddo cyfle addysgol a chyfiawnder cymdeithasol trwy ddarparu addysg prifysgol o ansawdd uchel i bawb sydd am wireddu eu huchelgeisiau a’u potensial.

Mae dros 14,000 o fyfyrwyr ledled Cymru yn astudio gyda ni ar hyn o bryd ac mae gennym fyfyrwyr ym mhob un o etholaethau’r Senedd. Mae bron tri o bob pedwar myfyriwr yn y Brifysgol Agored wedi’u cyflogi ar yr un pryd ag y maent yn astudio, a chyda pholisi derbyniadau agored, nid oes angen unrhyw gymwysterau er mwyn astudio ar lefel gradd. Mae dros draean o’n hisraddedigion yng Nghymru’n ymuno â ni heb unrhyw gymwysterau lefel mynediad prifysgol safonol.

Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?

Rydym yn falch o gefnogi’r Gwobrau Womenspire gan ein bod gant y cant yn rhannu gweledigaeth Chwarae Teg o Gymru decach. Rydym yn brifysgol â chenhadaeth a diben cymdeithasol, ac mae cydraddoldeb rhywedd yn ganolog i hynny. Ein nod yw gwneud dysgu yn agored i bawb beth bynnag yw eu hunaniaeth, cefndir neu amgylchiadau, ac mae sicrhau bod addysg yn agored i fenywod yn hanfodol.

Mae gan fenywod sy’n dysgu ledled Cymru gymaint i fod yn falch ohono. Rydym eisiau hyrwyddo a dathlu eu cyflawniadau, a dathlu cyflawniadau menywod yng Nghymru o bob cefndir.

Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?

Mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig i ni gan ei fod yn hanfodol i ddatblygu Cymru well a thecach. Credwn fod gan bawb gyfrifoldeb i sicrhau bod menywod yn gyfartal ac yn gallu ffynnu.

Mae gan ein system addysg rôl bwysig i’w chwarae wrth alluogi menywod i ddatblygu eu sgiliau, cael mynediad i’r gweithle, a datblygu gyrfaoedd buddiol, ac rydym yn falch o gefnogi Chwarae Teg wrth geisio cyflawni’r nod hwnnw.

Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?

Mae Chwarae Teg yn sefydliad hynod o bwysig ac rydym yn falch o fod yn un o’i bartneriaid a chefnogwyr.

Fel prifysgol gyda chenhadaeth gymdeithasol, mae gweledigaeth Chwarae Teg o Gymru lle mae menywod yn cyflawni ac yn ffynnu, yn weladwy a dylanwadol, ac wedi’u grymuso i gyflawni eu potensial, beth bynnag fo’u cefndir, statws cymdeithasol neu leoliad daearyddol, yn un sy’n agos at ein calon.

Rydym yn cydnabod y rôl sydd gennym i’w chwarae fel prif ddarparwr y genedl o addysg uwch ran-amser i israddedigion ac rydym yn ymrwymedig i gydweithio â Chwarae Teg i gyflawni ei genhadaeth.