Dathlwch ferched anhygoel! Mae elusen cydraddoldeb rhywedd flaenllaw Cymru yn dathlu llwyddiannau menywod o bob cefnir a chyfnod mewn bywyd ar hyd a lled Cymru. Mae Gwobrau Womenspire yn canu cydnabod menywod o bob agwedd ar fywyd, gan ddathlu llwyddiannau personol a chyfraniad eithriadol.
Bydd Womenspire 2021 yn digwydd Dydd Iau 30 Medi, ar ffurf seremoni wobrwyo ar-lein.
Mae Womenspire yn cydnabod pob agwedd ar fywydau menywod, o lwyddiannau personol i gyfraniadau rhagorol.
Bydd gennym bopeth y byddech yn ei ddisgwyl o’n seremoni wobrwyo Womenspire, o fideos o’r menywod a ddaeth i’r brig yn cael eu chwarae drwy gydol y digwyddiad i berfformiadau byw gan artistiaid benywaidd.
O ystyried y sefyllfa bresennol, a’r ansicrwydd sy’n parhau gyda’r coronafeirws, teimlen mai hwn oedd y penderfyniad cywir. Rydym yn ymroddedig i ddathlu llwyddiannau anhygoel ein menywod gwych, ond ein blaenoriaeth ni yw cadw pawb yn ddiogel.
Gallwch wylio uchafbwyntiau seremoni rithwir y llynedd isod.
Beth sy’n drawiadol yw’r ffaith nad oes gan lawer o’r menywod unrhyw syniad pa mor arbennig ydyn nhw, ac mae’n gyfl e gwych i ITV allu adrodd hanes y menywod hyn a bod yn rhan o’r digwyddiad.
Nia Britton
ITV Wales
Cyfleoedd I Noddi
Os yw eich sefydliad yn awyddus i gefnogi datblygiad proffesiynol menywod a’ch bod am sicrhau bod eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau’n cyrraedd i ganol carfan benodol allweddol o’r boblogaeth, mae bod yn noddwr Gwobrau Womenspire yn ffordd wych o greu argraff.
Os hoffech ddarganfod mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm yn [email protected]
Gwobrau Womenspire 2021: Cyhoeddi’r rhestr fer!
Am y chweched flwyddyn yn olynol, rydym wedi bod yn llawn edmygedd o’r menywod anhygoel sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer ein Gwobrau Womenspire.
Mae straeon o’r enwebiadau ar y rhestr fer wedi creu argraff ar staff Chwarae Teg sydd ar y panel beirniadu ac rydym yn falch iawn o gael datgelu teilyngwyr 2021, wedi’u dewis allan o gannoedd o geisiadau o bob cwr o Gymru
Cliciwch ar gategori i weld proffil pob un o’r teilyngwyr.
Aelod O'r Bwrdd
Gwyneth Sweatman and Emma Henwood
Mae Gwyneth ac Emma yn Gyd-gadeiryddion Public Affairs Cymru (PAC). Mae’r ffyrdd mae’r ddwy yn meddwl am y dyfodol a gweledigaeth PAC yn cydblethu ac mae hynny wedi eu galluogi i’w drawsnewid o rywbeth oedd yn ychydig o glwb cymdeithasu i ddynion i fusnes sydd â ffocws ar amrywiaeth, cynhwysiant, hyfforddiant, rhwydweithio a rhannu gwybodaeth. Maent wedi gweithio’n galed i sicrhau bod PAC yn ‘barod ar gyfer y dyfodol’ ac maent yn angerddol am greu cyfleoedd i eraill.
Corrina Lloyd - Jones
Mae Corinna wedi bod yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr cenedlaethol Mudiad Meithrin ers 6 blynedd. Mae hi’n cyfoethogi gwaith Mudiad Meithrin drwy ei gwybodaeth broffesiynol am Adnoddau Dynol a’i phrofiad llawr gwlad fel cadeirydd ei phwyllgor rheoli Cylch Meithrin lleol. Am ddegawdau, dynion oedd tri chwarter cyfarwyddwyr gwirfoddol Mudiad Meithrin. Roedd Corinna’n un o’r genhedlaeth newydd o Gyfarwyddwyr benywaidd a ymunodd yn 2015. Diolch i’w gwaith, fe adeiladwyd ar hyn drwy benodi 6 menyw arall.
Karen Harvey - Cooke
Mae Karen yn aelod o fwrdd Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru, gan ddod â’i gwybodaeth am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i asesu’r hyn y maent yn ei wneud yn barod a beth arall y gallant ei wneud. Prif nod Karen yw sicrhau bod gan bobl le lle gallant fod yn nhw’u hunain a theimlo eu bod wedi’u grymuso. Yn cefnogi hawliau traws, Karen yw cadeirydd y rhwydwaith staff LGBT ym Mhrifysgol Caerdydd; mae’r rôl yn dod a gobaith, balchder a llawer o hapusrwydd iddi. Mae Karen hefyd yn gofalu am yr erthyglau cymunedol mewn cylchgrawn ar-lein, LGBTQymru.
Pencampwraig Gymunedol
Helen Hughes
Helen yw Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens a George. Mae Helen wedi rhedeg nifer o brosiectau gan gynnwys cael plant i ymddiddori mewn addysg, cefnogi teuluoedd sydd â sefyllfaoedd byw cymhleth, a chefnogi aelodau oedrannus y gymuned. Mae Helen ei hun wedi goresgyn llawer o rwystrau, gan gynnwys bod yn ddigartref, dioddef trais yn y cartref, cael diagnosis o diwmor a bod â thwll yn ei chalon ond mae hi wedi brwydro drwy’r rhain i gyd ac mae bellach yn cystadlu’n rheolaidd mewn triathlonau a marathonau ultra. Mae Helen wedi arwain yr elusen i ennill nifer o wobrau am eu gwaith. Yn fwyaf diweddar, dyfarnwyd MBE iddynt.
Lynne Kelly
Mae Lynne wedi bod yn ymgyrchu ac yn rhedeg ei grŵp cymorth ers dros 35 mlynedd. Ganwyd 3 mab Lynne gyda hemoffilia, a wedi iddi ganfod nad oedd cefnogaeth wirioneddol ar gael iddi fe ymunodd ag elusen a oedd yn canolbwyntio ar hemoffilia. Erbyn 2010, doedd neb ar ôl i redeg y grŵp elusen felly penderfynodd Lynne gymryd yr awenau. Ffocws Lynne yw helpu pawb, ond yn enwedig teuluoedd a mamau ifanc. Mae Lynne wedi bod yn ymgyrchu dros ymchwiliad cyhoeddus i waed heintiedig, gan gyfarfod ag aelodau Seneddol a gwleidyddion allweddol i drafod y mater hwn.
Roon Adam
Mae Roon yn rheolwraig gwasanaethau cynghori yn Race Equality First, gan fynd y tu hwnt i’w rôl i helpu a chefnogi aelodau o’i chymuned leol. Mae Roon wedi helpu menywod sydd angen dodrefn, llefydd i fyw a bwyd. Mae Roon yn eu dysgu am eu hawliau, ac fel cyfieithydd Arabeg, mae hi’n gweld bod pobl yn fwy agored ac yn teimlo’n fwy cyfforddus pan fyddant yn gallu cyfathrebu yn eu hiaith eu hunain. Mae Roon yn mwynhau helpu pobl, yn enwedig menywod sydd wedi dod draw i’r DU, gan ei bod yn deall y rhwystrau ieithyddol a diwylliannol y maent yn eu hwynebu.
Jessica Evans
Pan brofodd Jessica ei chamesgoriad cyntaf, ni chafodd y gefnogaeth yr oedd ei hangen arni gan y timau meddygol. Gofynnodd Jessica am help gan Tommy’s, yr elusen beichiogrwydd a cholli babanod yn Lloegr a gyda’u cymorth nhw, mae hi wedi casglu dros 4,000 o lofnodion ar gyfer deiseb i wella’r gofal i fenywod sy’n dioddef sawl camesgoriad yng Nghymru. Dechreuodd Jessica flog ar mumsnet a darganfod Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW). Gyda chefnogaeth FTWW, lluniodd Jessica adroddiad ar gael mynediad at ofal camesgoriad yng Nghymru, a gafodd ei drafod yn y Senedd. Mae Jessica hefyd yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd yng Ngogledd Cymru, lle maent yn bwriadu agor clinig camesgoriad rheolaidd.
Entrepreneur
Jayne Woodman
Yn benderfynol o beidio â gadael i fenywod eraill ddioddef fel y gwnaeth hi yn ystod y cyfnod perimenopos, sefydlodd Jayne The Menopause Team yn 2019 - ac mae wedi bod yn codi ymwybyddiaeth am y menopos yng Nghymru a thu hwnt ers hynny. Wrth gynnal sesiynau ymwybyddiaeth, ysgrifennu polisïau a darparu hyfforddiant i sefydliadau, mae Jayne yn helpu i gadw perfformiad menywod ar ei orau - gan wella eu bywyd gwaith a phersonol a helpu busnesau i gynnal eu mantais gystadleuol. Fel mam sengl, doedd Jayne ddim yn teimlo y gallai roi cynnig ar ddechrau ei busnes ei hun, ond unwaith roedd ei merch yn ddigon hen, roedd hi’n teimlo y gallai fynd amdani a dydy hi ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
Lauren Bowen
Ar ôl cael ei bwlio yn yr ysgol oherwydd ei bod yn LGBTQ+, agorodd Lauren fusnes Loaded Burgers and Fries i ddarparu lle diogel i’r gymuned LGBTQ+ ac mae hi’n cyflogi pobl sy’n draws, yn anneuaidd, pobl o liw a’r rhai sy’n niwroamrywiol. Yn angerddol am ei chymuned ac am gefnogi ei staff i lwyddo, mae Lauren eisoes wedi arwain Loaded Burgers and Fries i rownd derfynol Gwobrau Busnesau Newydd Cymru. Gyda chenhadaeth i ddod â goddefgarwch ac addysg i’r ardal, mae Lauren yn Cadeirio Pride RhCT, yr unig ddigwyddiad Pride yn y Cymoedd.
Gigi Gao
Er iddi gymhwyso fel cyfreithiwr yn arbenigo yng nghyfraith fasnach y DU, gwelodd Gigi fwlch yn y farchnad ac agorodd fwyty, gan weini bwyd Tsieineaidd go iawn ac addysgu ei chwsmeriaid am ddiwylliant Tsieineaidd. Tyfodd Gigi’r busnes yn gyflym a symudodd i safle llawer mwy, ond mae hi’n dal yn gorfod troi pobl i ffwrdd oherwydd poblogrwydd y bwyty. Y peth pwysicaf i Gigi yw profiad y cwsmer a gallu rhannu’r diwylliant Tsieineaidd gydag eraill.
Leanne Holder
Sefydlodd Leanne BecauseRaceCarBox, bocs tanysgrifio ar gyfer rhai sy’n frwdfrydig am lanhau ceir, gyda’i phartner 4 blynedd yn ôl. Yn awyddus i annog menywod i lanhau eu ceir a symud oddi wrth yr arogl a’r derminoleg wrywaidd a gynrychiolir yn y diwydiant moduro, lansiodd Leanne y ‘Pink Detailing Collection’. Er gwaethaf y pandemig, mae’r busnes wedi tyfu diolch i ddull Leanne, ac erbyn hyn mae ganddynt ddosbarthwyr yn Ffrainc a Gwlad Belg. A hithau’n fenyw yn y diwydiant modurol, mae Leanne wedi gorfod wynebu llawer o adfyd er mwyn cael ei chymryd o ddifrif, sy’n ei gwthio hi i gefnogi entrepreneuriaid benywaidd a’u hysbrydoli i fod mewn diwydiannau sy’n cael eu rheoli gan ddynion.
Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd
Anna Petrie
Mae Anna yn rheolwraig gwasanaeth cynghori yn Race Equality First (REF). Mae hi’n rhoi cymorth gwaith achos i ddioddefwyr troseddau casineb ac yn darparu eiriolaeth i unigolion o leiafrifoedd ethnig. Yn ystod y cyfnod clo, bu’n ymwneud â sefydlu digwyddiadau Addysg Rhyng-ffydd lle byddai’n mynd â chwestiynau o’r cymunedau at yr arweinwyr ffydd ac yn ffilmio’u hatebion. Mae Anna wedi ymrwymo i bob math o gydraddoldeb ac mae’n gweld gwerth ym mhob unigolyn. Mae Anna hefyd yn gwnselydd cymwysedig, rhywbeth a astudiodd cyn ymuno â REF, ac mae’n defnyddio ei sgiliau gwrando ac empathi i gyfathrebu â’i chydweithwyr a’r gymuned.
Kerry Ann Sheppard
Penderfynodd Kerry Ann ei bod am fynd â’r ymddygiadau cadarnhaol yr oedd wedi’u profi mewn rolau uwch i’w rôl yn grŵp Target. Gyda chymorth eu tîm Adnoddau Dynol, creodd Kerry Ann rwydwaith Merched Target i annog menywod eraill i weithio i Target a chael sicrwydd y byddent yn cael eu cefnogi. Fel rhan o’r rhwydwaith hwn, sefydlodd Kerry Ann bwyllgor llywio, gan roi cyfleoedd i fwy o fenywod iau gael profiad. Mae hi hefyd yn mentora menywod sydd yn eu 5-10 mlynedd gyntaf o’u gyrfaoedd, gan helpu i fagu hyder ynddynt i wneud ceisiadau am swyddi uwch.
Mike Taggart
Mike yw’r swyddog cam-drin domestig strategol yn heddlu Gogledd Cymru, gyda’i ffocws ar helpu eraill i beidio â bod yn wyliwr tawel cam-drin domestig. Mae hefyd yn llysgennad ar gyfer yr ymgyrch rhuban gwyn. Dywed Mike yn glir fod cam-drin domestig yn effeithio ar bob rhywedd, ond fel trosedd sy’n fwy cysylltiedig ag un rhywedd, mae eisiau gallu grymuso dynion i fod yn gefn i fenywod. Ysbrydolwyd Mike i ymgymryd â’r rôl hon ar ôl i’w fam gael ei llofruddio gan ei lys-dad. Mae’n credu nad oes o reidrwydd angen ymyrryd yn gorfforol, gallwch fod yn llais i bobl sy’n teimlo na allant siarad drostynt eu hunain.
Lesley Williams
Fel swyddog allgymorth cymunedol ar gyfer Welsh ICE (Canolfan Arloesi ar gyfer Menter) mae Lesley yn mynd â’u cyngor busnes “ar daith” i’w wneud mor hygyrch â phosibl. Ar ôl adolygu’r cyngor a ddarparwyd gan Welsh ICE, aeth Lesley ati i ailwampio’r cyfan, gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb a hygyrchedd. Mae Lesley hefyd yn fodel rôl Syniadau Mawr Cymru, wedi iddi hi wynebu rhwystrau fel menyw o’r cymoedd, mae’n hawdd iawn uniaethu â’i stori. Hi hefyd yw cydgadeirydd Plaid Cydraddoldeb Merched ac mae’n eistedd ar fyrddau ar gyfer elusennau amrywiol. Mae Lesley hefyd wedi bod yn rhan o raglen Female Founders sy’n rhoi cyngor busnes i fenywod.
Arweinydd
Professor Karen Holford
Gydag angerdd am beirianneg ers erioed, mae gyrfa Karen wedi datblygu o fod yn beiriannydd israddedig yn Rolls Royce i Ddirprwy Is-ganghellor ac Athro mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi wedi cyflawni’n sylweddol fel arweinydd o fewn disgyblaeth academaidd peirianneg, a’i rolau ehangach o fewn y Brifysgol. Yn hyrwyddwr cyson a brwdfrydig dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, mae wedi cael effaith rymus ar gydraddoldeb rhywedd. Ar ôl ymgymryd â swydd newydd yn ddiweddar fel Is-ganghellor ym Mhrifysgol Cranford, bydd yn parhau i fod yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd fel Athro Ymchwil Nodedig Anrhydeddus.
Viv Buckley
Gyda gradd mewn cyfarwyddo theatr, daeth Viv yn athrawes drama cyn iddi symud ymlaen i reoli (er ei bod yn mynnu dysgu unwaith yr wythnos!) ac mae wedi bod yn Ddirprwy Bennaeth yng Ngholeg Penybont ers 4 blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r coleg wedi trawsnewid ac yn ddiweddar, fe gyrhaeddodd rif 24 ar y rhestr o’r 100 Cwmni gorau i weithio iddo yn y Times - y coleg addysg bellach uchaf yn y DU. Mae gan Viv ymrwymiad amlwg i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan herio sut mae pethau’n cael eu dehongli ac mae’n annog mwy o fenywod i ymgymryd â phynciau sy’n wrywaidd yn draddodiadol. Mae Viv wrth ei bodd yn gweithio mewn addysg bellach gan gydnabod pa mor “wirioneddol drawsnewidiol y gall fod”.
Dr Gwenllian Lansdown Davies
Gwenllian yw Prif Weithredwr Mudiad Meithrin. Yn esiampl ysbrydoledig, mae Gwenllian yn chwilio’n gyson am ffyrdd newydd o wella, a phobl newydd all ddysgu rhywbeth iddi hi neu gall bartneru gyda hi er mwyn creu diwylliant cadarnhaol lle mae pawb yn bwysig; ‘Mae’n hawdd newid strategaeth gyda diwylliant.’ Mae Gwenllian bob amser yn adeiladu ar ei gwybodaeth ac yn ei rannu’n eang. Pan darodd Covid, cynyddodd Gwenllian eu cyfathrebu mewnol, a gyda’i ffordd flaengar a chraff o arwain, nid yw’n gweithredu ar sail ‘angen gwybod’.
Aliya Mohammed
Mae Aliya yn arweinydd ysbrydoledig sydd wedi gweithio yn y sector cydraddoldeb ers 16 mlynedd a sydd bellach yn Brif Swyddog Gweithredol yn Race Equality First (REF). Meddai Aliya “Does dim angen i ni fod yn sefydliad mawr, dim ond ein bod yn ofnadwy o dda yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud”. Pan ddechreuodd Aliya yn REF, roeddent yn cael trafferth o ran staff ddim yn cydweithio, yn profi anawsterau ariannol a dim ond dynion oedd ar y Bwrdd. Diolch i sgiliau arwain Aliya, mae hi wedi amrywio’r bwrdd, gwella’r rhwydwaith staff, diogelu eu cyllid, a thrawsnewid diwylliant REF.
Dysgwr
Amal Alkhatib
Gadawodd Amal yr ysgol yn 18 oed i astudio nyrsio ac roedd hi’n fydwraig gymwysedig am 7 mlynedd yn Syria cyn gorfod symud gyda’i theulu i Lebanon. Ar ôl cael ei symud 5 gwaith yn y 5 mlynedd yr oedd hi yno, daeth Amal i’r DU fel ffoadur. Pan gyrhaeddodd y DU, doedd ganddi ddim gair o Saesneg ond dechreuodd gael gwersi yng Ngholeg Llandrillo yn 2016. Fe wnaeth ei thiwtor ESOL ei henwebu gan fod Amal wedi rhagori yn ei dysgu ac mae ganddi le ar gwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan mai ei nod yw dychwelyd i fod yn fydwraig.
Gemma Campbell
Mae Gemma wedi goresgyn llawer o rwystrau a brwydrau er mwyn bod lle mae hi heddiw. Fel athrawes gydag uchelgeisiau mawr, bu i Gemma ddarganfod po fwyaf roedd hi’n datblygu yn ei gyrfa, y lleiaf o amser roedd hi’n treulio yn y dosbarth, ble mae ei chalon. Yn dilyn seibiant gyrfa, roedd Gemma yn ei chael hi’n eithaf anodd cael swydd eto gan iddi ymddangos i gyflogwyr fel petai’n camu’n ôl yn ei gyrfa, felly cofrestrodd ar raglen beilot ar gyfer hyfforddiant athrawon siartredig a daeth yn un o’r athrawon siartredig cyntaf yng Nghymru. Mae Gemma bellach yn mentora a thiwtora eraill i fod yn athrawon siartredig, yn ogystal ag ymgymryd â gradd meistr.
Gomathi Shivakumar
Astudiodd Gomathi gyfrifiadura yn y brifysgol yn India, a hi oedd y person cyntaf yn ei thref enedigol i gael gradd cyfrifiadura, ond nid oedd yn gallu ei ddefnyddio oherwydd ymrwymiadau teuluol. Symudodd Gomathi a’i theulu i’r DU yn 2002, a 25 mlynedd ar ôl llwyddo’n ei gradd, roedd hi’n gobeithio cael swydd. Heb unrhyw brofiad gwaith, roedd Gomathi yn ei chael hi’n anodd, tan iddi wneud cais i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) lle wnaeth hi ddarganfod bod modd iddi gael hyfforddiant a gweithio’r un pryd. Pasiodd Gomathi gyda rhagoriaeth ac fe wnaeth hi hyd yn oed ennill gwobr am fod â’r prosiect gorau ar ei chwrs. Ar hyn o bryd mae gan Gomathi dair gradd ac mae hi bob amser yn astudio ymhellach.
Kate Bennett Davies
Yn 14 oed cafodd Kate ddiagnosis o ME ac er iddi fynd i’r brifysgol, bu’n rhaid iddi adael oherwydd salwch. Mae hi wedi gorfod diddyfnu ei hun oddi ar opioidau ac mae hi wedi cryfhau ei hun er mwyn bod yn llai dibynnol ar gadair olwyn. Mae Kate wedi gorffen ei blwyddyn gyntaf o gwrs dysgwyr Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae Kate bob amser wedi bod yn angerddol iawn am ysgrifennu ac yn ystod y pandemig ymunodd â grŵp ysgrifennu ar-lein (sydd ag aelodau o bob cwr o’r byd). Mae Kate yn ferch dawel ond gweithgar sy’n mynd allan o’i ffordd i helpu pobl eraill ac i ddatblygu ei hun fel person - hyd yn oed os yw hynny o’i gwely.
Seren Ddisglair
Christina Tanti
Mae Christina yn gweithio i Race Equality First fel eu cydlynydd ymchwil a gwerthuso, gan weithio ar brosiectau gyda’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn ymchwilio i droseddau casineb a pham nad ydynt yn cael eu herlyn. Mae hi hefyd yn gweithio ar adroddiad ar Gydraddoldeb Hiliol yng Nghymru ar hyn o bryd. Ar ôl profi anawsterau a rhwystrau o oedran ifanc, fel menyw o gefndir lleiafrif ethnig, mae Christina eisiau newid hyn ar gyfer eraill o hyn allan, drwy ei swydd. Meddai: “Dwi mor lwcus yn fy oedran i i gael y rôl yma, felly hoffwn barhau â’r hyn rwy’n ei wneud o safbwynt ymchwil a dylanwadu ar lunwyr polisi.
Jessica Dunrod
Dechreuodd Jessica y cwmni cyfieithu cyntaf ar gyfer llenyddiaeth plant yn benodol, lansiodd gwmni cyhoeddi du yn ogystal â bod yn gyd-gadeirydd o grŵp Race Equality First Caerdydd. Ar hyn o bryd mae hi’n astudio ar gyfer ei MA. Mae Jessica hefyd yn gweithio i frwydro yn erbyn hiliaeth mewn ysgolion, ar ôl gorfod tynnu ei mab allan oherwydd y gamdriniaeth yr oedd yn ei ddioddef. Nod Jessica yw hyrwyddo’r iaith leiafrifol Gymraeg, galluogi merched ifanc du i weld eu hunain mewn llyfrau ac fel prif gymeriadau a grymuso menywod duon i sylweddoli y gallant ymgymryd ag unrhyw rôl y dymunan nhw.
Llio Pugh
Mae Llio yn gweithio yn yr adran gyllid yn Mudiad Meithrin sy’n rheoli’r holl Gylchoedd (grwpiau chwarae cyn-ysgol sy’n canolbwyntio ar ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg). Mae gan y Cylchoedd staff cyflogedig, ond maent yn cael eu rheoli gan bwyllgorau o wirfoddolwyr, sy’n cynnwys menywod yn bennaf. Mae Llio’n gydwybodol iawn, yn mynd allan o’i ffordd i helpu eraill i gyflawni eu rolau, ac mae’n gefnogol iawn i’r menywod ar y pwyllgorau. Mae Llio hefyd yn gwirfoddoli fel trysorydd i’w chanolfan gymunedol leol a’i phapur newydd lleol.
Stephanie Back
Mi wnaeth mynd yn Fyddar yn 15 oed effeithio ar hyder a iechyd meddwl Stephanie, ond yna gwnaeth ddarganfod y theatr a’r celfyddydau. Ar ôl cwblhau gradd mewn Theatr, Addysg ac Astudiaethau Byddar ym Mhrifysgol Reading, ymunodd â Theatr Taking Flight i chwarae Juliet yn Romeo and Juliet, gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi sefydlu ei chwmni theatr ei hun - Deaf and Fabulous - y mae’n ei ddefnyddio i greu theatr am iaith, cyswllt a bod yn Fyddar. Mae Steph am ysbrydoli pobl ifanc eraill Byddar, a gwneud iddynt feddwl ‘Os gall hi ei wneud e, galla i ei gwneud e’.
Menyw Mewn Iechyd a Gofal
Dr Helen Lane
Yn feddyg ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, mae Helen yn arbenigo mewn endocrinoleg a diabetes. Mae Helen hefyd wedi bod yn ymwneud ag adeiladu timau disgyblaethol mewn wardiau a hi yw’r Cyfarwyddwr Cyswllt Meddygol ar gyfer Gwella Ansawdd, sy’n canolbwyntio ar wella yn hytrach na llywodraethu. Mae hi eisiau clywed lleisiau pawb a chwalu’r rhwystrau disgyblu. Yn enwedig chwalu’r rhwystrau hierarchaidd mewn meddygaeth yn ogystal â chael y gorau allan o bob person - mae Helen bob amser yn gofyn i’r glanhawyr, y porthorion ac eraill sut mae pethau gyda nhw. Dechreuodd Helen ysgrifennu barddoniaeth fel ffordd o ymdopi ar ddechrau’r pandemig ac ers hynny mae hi wedi cyhoeddi barddoniaeth.
Ffion Wylie
Fel rheolwr Meithrinfa Medra, wynebodd Ffion yr heriau a ddaeth gyda’r cyfnodau clo a chefnogi ei thîm i weithio drwy gydol y cyfnodau hynny, gan ofalu am blant gweithwyr allweddol eraill. Mae polisi drws agored Ffion wedi golygu bod ei staff yn teimlo’n hyderus ac yn ddiogel yn y gwaith. Mae Ffion yn herio ac yn annog aelodau ei thîm i roi cynnig ar sgiliau a phrofiadau newydd, gan ddangos ei ffydd yng ngallu pob un ohonynt. Er gwaethaf y cyfnodau heriol, mae Ffion wedi sicrhau bod cyfleoedd i fenywod ifanc yn yr ardal sydd eisiau gyrfa ym maes gofal plant drwy gynnig gweithleoedd i brentisiaid, ac mae hi wedi sefydlu ethos mentora ymhlith tîm gweithle’r menywod.
Rachel Rowlands
Mae Rachel wedi bod yn Brif Weithredwr Age Connects Morgannwg ers 16 mlynedd. Bu Rachel hefyd yn aelod o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol am 3 blynedd fel yr unig weithiwr trydydd sector ar y bwrdd. Yn ystod y pandemig, helpodd Rachel i sefydlu system brofi, tracio ac olrhain yn ogystal â chynorthwyo pobl drwy nôl meddyginiaethau, mynd a chŵn am dro, a chasglu plant o’r ysgol. Helpodd Rachel hefyd i sefydlu llinell gymorth hunanynysu, lle gallai pobl alw gydag unrhyw gwestiynau, a helpu i sefydlu’r “vacci Taxi” i gynorthwyo pobl hŷn neu aelodau bregus o’r gymuned i gyrraedd eu canolfannau brechu.
Dr Bnar Talabani
Pan nad oedd raid i Bnar weithio ar wardiau Covid, penderfynodd wneud rhywbeth arall i gefnogi’r achos. Ar ôl cael sioc o ran faint o’r gamwybodaeth oedd ar-lein oedd sylwodd fod diffyg gwybodaeth mewn gwahanol ieithoedd i wrthbwyso hyn. Cysylltodd ag ychydig o gydweithwyr a ffurfiodd Muslim Doctors Cymru (MDC). Maent wedi cynnal 15 o weminarau mewn 8 iaith, gyda’u gwaith yn dylanwadu ar gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru. Maent hefyd wedi gweithio gyda mosgiau er mwyn eu hagor fel canolfannau brechu. Mae Bnar wedi rhedeg grwpiau menywod yn unig i gywiro honiadau am y brechlyn yn ogystal ac mae wedi cydgysylltu â Project Halo i dargedu pobl ifanc drwy fideos TikTok, gyda rhai’n cael eu gwylio dros 35,000 o weithiau.
Menyw Mewn Chwaraeon
Beth Fisher
Mae Beth yn gynchwaraewraig hoci sydd bellach yn cyflwyno chwaraeon ar gyfer ITV yn ogystal ag ymgyrchu dros gydraddoldeb ac amrywiaeth. Ar ôl sylweddoli ei bod hi’n “wahanol” yn yr ysgol, sylwodd Beth ar rywiaeth a’r diffyg amrywiaeth mewn chwaraeon o oedran ifanc iawn. Ar ôl iddi adael ei gyrfa hoci, bu Beth yn ohebydd llawrydd cyn cael swydd gydag ITV. Yn angerddol am gydraddoldeb i bawb, ar hyn o bryd mae Beth yn gweithio’n ddiflino gydag ITV i adrodd ar y Gemau Olympaidd, gan dynnu sylw at y straeon llai adnabyddus, yn enwedig rhai am fenywod o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Jade Knight
Yn chwaraewraig rygbi o Gymru sydd bellach yn fydwraig; mae Jade wedi defnyddio’i phrofiadau bywyd Jade i helpu menywod eraill. Ar ôl darganfod ei bod hi’n feichiog tra’n rhan o garfan y chwe gwlad, rhyddhawyd Jade a doedd dim disgwyl iddi ddychwelyd. Ond fe wnaeth. Er iddi fod â hyfforddwr cefnogol a’i bod yn gallu bwydo o’r fron wrth hyfforddi, sylweddolodd nad oedd cefnogaeth yn gyffredinol i fod yn fam ac yn y byd chwaraeon. Ar hyn o bryd mae Jade yn dylunio pecyn cymorth i fenywod sy’n feichiog yn y byd chwaraeon. Bydd yn cynnwys cyngor ar iechyd meddwl, maeth, gweithgaredd corfforol fel nad yw menywod yn teimlo eu bod yn colli eu hunaniaeth, neu ble maent eisiau bod mewn bywyd.
Natalie Morgan
Symudodd Natalie yn ôl i Gymru i ddilyn gyrfa mewn chwaraeon ac mae hi’n hyfforddwraig gyda Gymnasteg Cymru. Mae gan Natalie awydd mawr i wneud gwahaniaeth i bobl o bob cefndir ac oedran ac roedd yn rhan o brosiect i ennyn diddordeb merched a menywod ifanc o’r gymuned Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig mewn gymnasteg. Gan ddechrau gydag 11 o ferched, pob un yn newydd i gymnasteg, tyfodd yn gyflym i dros 130 o ferched gyda 10 o wirfoddolwyr sy’n oedolion sydd bellach yn hyfforddwyr cymwysedig ac yn rhedeg y clwb. Gwnaeth y prosiect ragori ar yr holl ddisgwyliadau ac mae’n cael ei gydnabod fel y prosiect BME i fenywod yn unig mwyaf llwyddiannus yng Nghymru.
Nikki Sibeon
Roedd gan Nikki gyflwr genetig heb ei ganfod a wnaeth olygu ei bod wedi colli ei golwg yn 21 oed. Y flwyddyn ganlynol dechreuodd ddosbarthiadau Taekwondo a llwyddodd i gael gwregys du o dan y rheoliadau arferol. Yn gweld yr angen am her newydd, aeth Nikki ati i weithio ag hyfforddwr sglefrio iâ ac o fewn misoedd aeth i bencampwriaeth sglefrio gynhwysol yn Birmingham ac enillodd ei chategori. Pan gaeodd Covid y canolfannau sglefrio iâ, dechreuodd ‘sglefrio oddi ar yr iâ’ ac enillodd Wobrau yn yr Alban ac ym Mhrydain. Pan drawsnewidiwyd canolfan sglefrio iâ lleol Nikki yn ysbyty enfys, aeth ati i wneud y trefniadau angenrheidiol i deithio ar drenau i ganolfannau sglefrio iâ eraill, lle mae hi’n cwrdd â ffrindiau a’i hyfforddwr.
Menyw Mewn STEM
Professor Jane Henderson
Mae Jane yn ffigwr blaenllaw ym maes cadwraeth. Mae hi’n Gynghorydd i Lywodraeth Cymru ar gyfer strategaeth amgueddfeydd, yn arbenigwr ar Safonau Ewropeaidd ac yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad Cadwraeth Rhyngwladol. Mae Jane yn un o sylfaenwyr Gofalu am Gasgliadau ac roedd yn bensaer y Cynllun Achredu Cadwraeth - gan alluogi menywod yn y proffesiwn i gystadlu yn ôl eu teilyngdod. Cafodd ei gwaith ar rywedd a dylanwadu ar benderfyniadau ei ddatblygu er mwyn cefnogi menywod, yn enwedig gweithwyr proffesiynol ifanc, i fynegi eu gwaith, i ddylanwadu ar eraill ac i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae Jane wedi cyrraedd y brig yn ei phroffesiwn ac nid yw hi erioed wedi cyfaddawdu ar sicrhau bod menywod eraill yn derbyn cefnogaeth i gyrraedd ei nod.
Laura Roberts
Mae Laura wedi bod yn ymwneud â Gwyddoniaeth a Thechnoleg ers dros 20 mlynedd, ac ymunodd â Technocamps fel Cydlynydd Rhanbarthol. Mae Laura wedi esblygu ei rôl yn Technocamps i gyflwyno gweithdai STEM mewn ysgolion, ac ymgysylltu pobl ifanc â gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae Laura’n angerddol dros annog merched i ystyried gyrfaoedd STEM, ac mae wedi arwain llawer o ddigwyddiadau Technocamps sy’n benodol i fenywod gan gynnwys datblygu ‘Merched mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg’ (GiST). Mae Laura wedi arwain ei thîm gyda’u Gweithdai Cyfoethogi STEM sydd wedi ysbrydoli merched i ymgymryd â phynciau STEM ôl-16, ac mae ei rhaglen etifeddiaeth wedi cefnogi athrawon ysgol gynradd gyda’u cymhwysedd digidol.
Rachel Edmunds Naish
Fel Pennaeth Cwricwlwm STEM yng Ngholeg Penybont, mae Rachel wedi goruchwylio’r gwaith o ddylunio a datblygiad adeiladu’r ganolfan STEAM newydd gwerth £30m; ac wedi ailadeiladu diwylliant sydd â phobl yn sail iddo. Dydy Rachel erioed wedi crwydro’n rhy bell o’r dasg o wneud y cyfleuster yn un sy’n herio’r canfyddiadau o STEM fel diwydiant trwm a ‘gwaith budr’. Mae’r dyluniad yn gynhwysol, y cwricwlwm yn arloesol a’r weledigaeth wedi’i gwreiddio’n gadarn yn nyfodol y diwydiant. Ym myd addysg, mae hi’n brwydro am lwybrau llai traddodiadol a fydd yn annog menywod i wneud penderfyniadau cynnar i mewn i’r maes.
Sam Wheeler
Yn strategydd anhygoel, entrepreneur, siaradwraig gyhoeddus, a mentor sy’n ymroddedig i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent technoleg - mae Sam wedi dod yn Gyfarwyddwr yn Big Lemon yn gyflym iawn gan ei drawsnewid yn asiantaeth ddigidol ‘technoleg er daioni’. Mae hi wedi ymrwymo i feithrin cymuned o arloeswyr ac aflonyddwyr technoleg benywaidd, wedi cyd-sefydlu Menywod Digidol Cymru, yn fodel rôl i Syniadau Mawr Cymru ac yn bartner cyflawni gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog. Mae Sam yn eiriolwr brwd dros gydgynhyrchu wrth ddylunio datrysiadau technolegol a thros yr hyn y gall technoleg ei wneud i bobl, y blaned a chymunedau.
Gwobr i Cyflogwr Chwarae Teg
Celtic English Academy
Mae Celtic English Academy (CEA) yn academi hyfforddi Saesneg achrededig gan y British Council. Mae gan CEA ystod eang o fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd, ethnigrwydd, oedrannau, lleoliadau. Mae llawer o resymau pam yr oedd Shoko, Prif Weithredwr CEA, am i gydraddoldeb ac amrywiaeth gael ei gynnwys o fewn y sefydliad ond roedd hi’n teimlo’n gryf amdano oherwydd ei phrofiadau ei hun. Pan gafodd Shoko a’i gŵr blant, cymrodd hi’r rôl fel y Prif Swyddog Gweithredol fel ei fod e’n gallu aros gartref i fod yn dad llawn amser. Ar ôl derbyn llawer o feirniadaeth am hyn, teimlai Shoko ei bod eisiau gwneud CEA yn sefydliad cyfartal iawn o ran rhywedd a dangos i fusnesau eraill y dylent ac y gallant wneud yr un peth.
Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru (ASB yng Nghymru) wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ers amser maith gyda’r staff yn gallu dewis gweithio gartref, yn y swyddfa neu’n aml-safle. Mae gan ASB yng Nghymru lawer o rwydweithiau ar waith, megis menywod yr ASB, rhwydwaith LGBTQ, rhwydwaith Hil ac Ethnigrwydd, rhwydwaith Hygyrchedd, rhwydwaith Iechyd Meddwl. Edrychodd adolygiad o arferion recriwtio a phecynnau ymgeisio ar yr iaith a ddefnyddir i nodi pethau a allai achosi rhwystrau i fenywod ac unigolion eraill â nodweddion gwarchodedig. Penodwyd Arweinydd Cynhwysol hefyd i gydlynu holl gamau gweithredu ASB yng Nghymru o ran amrywiaeth ac i gyflwyno syniadau newydd.
Banc Datblygu Cymru
Cenhadaeth Banc Datblygu Cymru yw datgloi potensial economaidd yng Nghymru a gwella’r economi leol drwy ddarparu cyllid cynaliadwy ac effeithiol. Mae’r Banc Datblygu yn credu mewn cael gweithlu amrywiol, ac eisiau sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar yr un cyfleoedd ac yn cael yr un driniaeth deg. Mae gweithio’n hyblyg yn thema fawr, gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn arwain drwy esiampl fel bod eraill yn teimlo y gallant fabwysiadu’r arferion hyn. Dechreuodd y Banc Datblygu hefyd feincnodi’r Bwlch Cyflog ar sail Rhywedd gan eu rhoi ar y blaen o gwmnïau eraill yn y diwydiant. Wrth i weithwyr y sefydliadau ddychwelyd i’r ‘normal newydd’, maent yn cynllunio buddsoddiad parhaus yn eu mentrau cyfathrebu a llesiant mewnol.
Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO)
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn gyfrifol am bolisi eiddo deallusol y DU a dyfarnu patentau, nodau masnach a hawliau dyluniadau. Mae’r IPO wedi ymrwymo i gydraddoldeb rywedd ac amrywiaeth, gydag ymroddiad clir i ymgysylltiad staff - gan ymdrechu i sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb. Oherwydd natur eu gwaith mae llawer o weithwyr yn dod o gefndiroedd STEM, ac mae’r IPO yn ymwneud yn gryf â hyrwyddo rolau STEM i ferched ifanc. Mae’r IPO wedi gweithredu mentrau fel gweithio hyblyg, cymorth i deuluoedd sy’n gweithio a chynllun “allbwn nid oriau”. Ers sawl blwyddyn, maent wedi bod yn 10 uchaf y mynegai teuluoedd sy’n gweithio.
Diolch i’n holl noddwyr am eich cefnogaeth, a’ch ymrwymiad i wneud Cymru’n genedl gyfartal rhwng y rhywiau.
I ddarllen mwy am ein noddwyr a’u cefnogaeth i Womenspire 2020, cliciwch ar eu logo isod.
Prif Noddwr
Arweinydd
Menyw Mewn Iechyd a Gofal
Dysgwr
Entrepreneur
Cyflogwr Chwarae Teg
Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd
Seren Ddisglair
Menyw Ym Maes STEM
Woman in Sport
Community Sponsor
Partner
Noddwr Perfformiad
Cyfleoedd I Noddi
Os yw eich sefydliad yn awyddus i gefnogi datblygiad proffesiynol menywod a’ch bod am sicrhau bod eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau’n cyrraedd i ganol carfan benodol allweddol o’r boblogaeth, mae bod yn noddwr Gwobrau Womenspire yn ffordd wych o greu argraff.
Mae Jessica Leigh Jones yn beiriannydd ac astroffisegydd sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae hi’n eistedd ar Fwrdd EESW. Gan gyfrannu ei sgiliau, ei gwybodaeth a’i phrofiad o ddysgu STEM, mae Jessica wedi datblygu brwdfrydedd dros strategaeth a diwylliant sefydliadol drwy eistedd ar amryw fyrddau. Jessica yw cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol iungo, sefydliad sy’n ysgogi gweithlu uchelgeisiol, hyblyg a gwydn drwy ddefnyddio prentisiaethau o ansawdd uchel, ac fe ymunodd ag IfATE a CBAC yn 2018 gyda’r uchelgais i gydgysylltu strategaethau a throsglwyddo arferion gorau ar draws ffiniau. Mae hi bob amser yn dysgu er mwyn gwella ei gwybodaeth ac yn aros ar flaen y gad o ran arferion gwaith ac addysg.
Pencampwraig Gymunedol
Hazel Lim - Abertawe
Hazel Lim yw sylfaenydd y Grŵp Cymorth Awtistiaeth Tsieineaidd. Ar ôl i’w mab dderbyn diagnosis fod ganddo awtistiaeth, symudodd Hazel i Abertawe ac astudio gradd meistr yn y cyflwr. Roedd Hazel yn ymwybodol fod anhwylder ar y sbectrwm awtistig (ASD) yn bwnc tabŵ o fewn y diwylliant Tsieineaidd a’i fod yn stigma enfawr. Mae’r cyflwr yn cael ei guddio yn aml, a gall diagnosis deimlo fel diwedd y byd i lawer o deuluoedd yn ei chymuned. Mae Hazel yn brwydro i newid y canfyddiad hwnnw a’i chenhadaeth yw darparu’r cymorth i’r plant hynny a’u teuluoedd sydd wir yn ei angen. Mae Hazel wedi darparu cymorth i lawer o deuluoedd yn Abertawe ac mae’n ceisio ehangu’r gefnogaeth y mae’n ei chynnig. Wrth chwalu’r rhwystrau diwylliannol hyn, mae hi’n sicrhau bod pobl ifanc ag awtistiaeth yn cael y gefnogaeth gywir i gyflawni eu potensial.
Entrepreneur
Sian Cartledge - Castell-nedd
Nododd y dylunydd graffig Sian fwlch yn y farchnad pan ddechreuodd ei mab Max yn yr ysgol yng Nghwm Tawe. Am ei bod eisiau rhoi rhodd y Gymraeg iddo, cofrestrodd Sian Max mewn ysgol cyfrwng Cymraeg a sylweddolodd yn sydyn, fel siaradwraig Saesneg, y byddai’n anodd ei helpu gyda’i astudiaethau. Yn ystod ei hamser cinio, creodd Sian gardiau fflach i helpu Max i ddysgu. Gwnaeth hyn hefyd ei galluogi hi i ddysgu ochr yn ochr ag ef. Roedd Sian o’r farn y byddai’n helpu ychydig o deuluoedd yn yr un ysgol yn unig, ond o fewn wythnos roedd wedi gwerthu 250 o becynnau o gardiau fflach. Roedd y busnes wedi’i eni. Bellach yn darparu adnoddau Cymraeg, addurniadau cartref a chardiau cyfarch i dros 170 o stocwyr yng Nghymru, mae Sian yn frwdfrydig ynglŷn â helpu eraill. Gan gynnig cyfleoedd cyflogaeth hyblyg i eraill yn yr ardal, mae Sian yn dweud ei bod hi ‘wir yn byw ei breuddwyd’.
Arweinydd
Tracey Rankine - Pen-y-bont
Mae Ditectif Brif Arolygydd Tracey Rankin, Heddlu De Cymru, yn rhagori mewn datblygu cydweithwyr. Mae ei deallusrwydd emosiynol wedi ei galluogi i gydnabod potensial mewn eraill ac mae hi wedi darparu llwyfan i feithrin talent. Mae ganddi ddawn brofedig o ran gwerthfawrogi dynameg timau ac anghenion unigol, ac mae hi’n manteisio ar y rhain yn gyson er budd pawb. Gan gydnabod yr angen am newid strwythurol, brwydrodd Tracey i weithredu trefn gweithio hyblyg o fewn yr adran. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar bob aelod o staff ac mae’n caniatáu recriwtio gweithlu mwy amrywiol. Roedd hyn nid yn unig o fudd i weithwyr: cafodd effaith gadarnhaol sylweddol ar waith y tîm hefyd.
Dysgwr
Carys Godding - Pen-y-bont ar Ogwr
Roedd Carys yn gwybod pan yn 16 oed nad oedd hi eisiau mynd i’r brifysgol. Wrth wneud cais ynghyd â’i chwaer am brentisiaeth ym maes peirianneg, cafodd Carys ei hun yn un o’r aelodau staff benywaidd cyntaf mewn amgylchedd lle’r oedd y mwyafrif yn ddynion. Gan ddysgu sgiliau newydd bob dydd, roedd hwn yn amgylchedd anodd i Carys, lle’r oedd hi’n teimlo dan bwysau i brofi ei hun o hyd. Bellach, mae Carys yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant, mae hi wedi ennill gradd gyntaf mewn Peirianneg Drydanol ac mae hi ar y trywydd i fod yn uwch reolwr gyda Dŵr Cymru. Mae Carys yn frwdfrydig ynglŷn â dysgu, ac mae hi wedi cymryd rheolaeth dros ei llwybr gyrfa ei hun. Mae’n parhau i ddysgu sgiliau technegol ac mae’n frwd dros ddatblygu ei sgiliau arwain hefyd. Gan fanteisio ar bob cyfle a ddaw i’w rhan, mae Carys yn enghraifft ragorol o ‘deimlo’r ofn a bwrw ymlaen beth bynnag!’
Seren Ddisglair
Bethan Owen - Bodelwyddan
Mae Bethan Owen yn hoffi cadw’n brysur. Mae Bethan yn fyfyriwr yng Ngholeg y Rhyl, ac mae hi’n aelod o gadetiaid yr heddlu, mae’n rhedeg clwb karate ac mae hefyd yn ofalwr ifanc i’w mam. Rhoddodd Bethan gynnig ar karate am y tro cyntaf yn 7 oed a gwirionodd arno. Fel gofalwr ifanc, roedd karate’n rhoi’r hyder, y cymhelliant a’r sgiliau i lwyddo i Bethan. Roedd dod o hyd i hobi a chymuned yr oedd hi’n eu caru yn allweddol o ran gallu cefnogi ei rhieni sydd werth y byd iddi. Fodd bynnag, roedd dosbarthiadau’n ddrud. Felly, sefydlodd Bethan a’i thad Dojo newydd lle nad oedd arian yn rhwystr a lle gellid cynnwys pawb, yn enwedig gofalwyr ifanc eraill. Gan ddechrau’n fach, mae Bethan bellach yn cynnal pedwar dosbarth yr wythnos. Mae hi wrth ei bodd yn gweld pawb yn llwyddo, beth bynnag fo’u hoedran, ac mae’n parhau i gefnogi gofalwyr ifanc eraill. Drwy fod yn agored am ei phrofiadau, hi yw’r model rôl yr oedd hi’n dyheu amdano pan oedd hi’n iau.
Menyw Mewn Chwaraeon
Elenor Snowsill - Caerdydd
Mae Elinor wedi bod yn chwaraewr rygbi dros Gymru am fwy na deng mlynedd. Wrth berfformio ar frig ei gyrfa rygbi broffesiynol, canfu ei brwdfrydedd wrth helpu merched i lwyddo yn yr ysgol. Fel hyfforddwr a mentor ar gyfer y School of Hard Knocks, mae Elinor yn gweithio gyda merched ledled de Cymru sydd yn fwyaf tebygol o ymddieithrio rhag addysg. Mae Elinor yn credu bod chwaraeon yn gallu datgloi potensial y merched hyn, ac wrth ddarparu cymorth hyfforddi a mentora un i un i’r merched y mae’n gweithio gyda nhw, mae hi hefyd yn tanio eu brwdfrydedd dros rygbi. Mae gweithio fel tîm, arweinyddiaeth ac ymrwymiad i hyfforddiant yn rhai yn unig o’r sgiliau y mae’n helpu iddynt eu datblygu. Yn awyddus i ehangu’r gwaith hwn ar lefel ryngwladol, mae Elinor yn eiriolwr gwirioneddol dros rygbi ar bob lefel.
Menyw Mewn STEM
Youmna Mouhamad - Abertawe
Yn wreiddiol o Mayotte, mae Youmna ar hyn o bryd yn gymrawd trosglwyddo technoleg ym Mhrifysgol Abertawe sy’n gweithio ar wella’r casgliad cerrynt ar gelloedd solar, pan nad yw’n dawnsio salsa wrth gwrs! Mae’n angerddol am gydraddoldeb a grymuso pobl ifanc. Fel aelod o bwyllgor Bocs Sebon gwyddoniaeth Abertawe, hyrwyddodd gydraddoldeb rhywiol mewn STEM. Fe’i hysbrydolwyd gan hyn i greu rhwydwaith BAME y coleg peirianneg a gyflwynodd drafodaethau addysgol ar gydraddoldeb hiliol a sicredig cyllid ar gyfer cwrs arwain wedi’i deilwra i fyfyrwyr BAME. Gan ddefnyddio ei sgiliau arloesi, sefydlodd Youmna - Myana Naturals, busnes cychwynnol gydag i offeryn arloesol ar gyfer gwallt afro.
Treuliodd Bethan bron i 20 mlynedd yn gweithio mewn rolau cyfathrebu yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Yna penderfynodd adleoli i’r Gogledd, a hithau wedi ei magu yn yr ardal, ac roedd wrth ei bodd yn ymuno â thîm Chwarae Teg yn 2019.
Mae ei phrofiad yn cwmpasu cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a rheoli digwyddiadau, yn benodol gyda chynghorau yn lleol ac yn rhanbarthol. Mae Bethan yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn mwynhau paratoi a darparu negeseuon a gwybodaeth Chwarae Teg yn Gymraeg a Saesneg.
Connect with Bethan
Related news & features
20th Sep 2021
Noddwr Womenspire 2021 Chwaraeon Cymru
20th Sep 2021
Noddwr Womenspire 2021 Niche IFA
20th Sep 2021
Noddwr Womenspire 2021 Grapevine
8th Sep 2021
Cyhoeddwyd teilyngwyr Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021
20th Aug 2021
Noddwr Womenspire 2021 Trafnidiaeth Cymru
19th Aug 2021
Noddi gwobrau gyda’r nod o ysbrydoli
17th Aug 2021
Noddwr Womenspire 2021 NatWest Cymru
2nd Aug 2021
Noddwr Womenspire 2021 Wales and West Housing
30th Jul 2021
Noddwr Womenspire 2021 Sys Group
Eisiau’r newyddion diweddaraf
Cofrestrwch I dderbyn diweddariadau am ein gwaith yn ymladd yn erbyn anghyfartaledd rhywedd yng Nghymru. Byddwn yn anfon y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ymgyrchoedd, digwyddiadau a chyfleoedd I chi gymryd rhan.