Caiff Cenedl Hyblyg2 ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Wedi’i gyflenwi gan Chwarae Teg, mae’r prosiect wedi’i ddatblygu er mwyn gwella sefyllfa menywod sy’n gweithio yn y sector preifat neu’r trydydd sector/sector gwirfoddol.
Sefydlwyd y prosiect Cenedl Hyblyg2 gan fod menywod yn dal i gael eu tangynrychioli ar lefel reoli ledled Cymru. Ei nod yw gwella’r sefyllfa hon drwy:
- Weithio gyda menywod cyflogedig sy’n gweithio neu’n byw yng Nghymru i ddatblygu sgiliau, a hyder i symud ymlaen yn y gweithle.
- Gweithio gyda busnesau bach a chanolig i ddatblygu recriwtio effeithiol, arferion gwaith ar gyfer cadw staff yn well a datblygu gweithlu amrywiol.
Datblygwyd y rhaglen fel ymateb uniongyrchol i gorff o dystiolaeth sy’n dangos bod angen amlwg am gymryd camau cadarnhaol er mwyn cefnogi datblygiad menywod yng Nghymru.
Mae’r dystiolaeth hon yn cynnwys:
- Mae ffigurau cenedlaethol yn dangos bod 8% o fenywod yn cael eu cyflogi fel rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion o’i gymharu â 11.4% o ddynion
- Mae menywod yn cael eu tangynrychioli mewn diwydiannau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) allweddol, yn enwedig mewn prentisiaethau a swyddi rheoli
- Mae ymchwil yn dangos y gallai cydraddoldeb rhywiol llawn ychwanegu £13.6 biliwn at economi Cymru erbyn 2028.