Cyflwr y Genedl

28th January 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod uchelgais clir i Gymru ddod yn arweinydd byd-eang ym maes cydraddoldeb rhyw, ac mae’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhyw a gwblhawyd yn 2019 yn amlinellu sut mae modd gwireddu’r weledigaeth hon drwy newid nid yn unig yr hyn rydym yn ei wneud, ond hefyd sut rydym yn ei wneud.

Ond ni allwn gyflawni’r uchelgeisiau hyn heb fod yn onest am sut rydym yn perfformio fel cenedl ar hyn o bryd. Pa mor gydradd mae Cymru mewn gwirionedd? Sut rydym yn datblygu tuag at fod yn arweinydd byd-eang ar gyfer cydraddoldeb rhyw?
Mae Cyflwr y Genedl yn ceisio ateb y cwestiynau hyn, gan amlinellu sut mae Cymru’n perfformio mewn perthynas â dangosyddion allweddol ar gydraddoldeb rhyw. Caiff y dangosyddion hyn eu grwpio dan dair prif thema, sef y ffocws strategol allweddol ar gyfer gwaith Chwarae Teg:

  1. Menywod yn yr Economi: creu Cymru lle mae menywod yn cyflawni a ffynnu ym mhob sector ac ar bob lefel o’r economi
  2. Cynrychiolaeth Menywod: creu Cymru lle mae menywod yn weladwy ac yn ddylanwadol ym mhob sector o’r economi, cymdeithas a bywyd cyhoeddus
  3. Menywod mewn Perygl: creu Cymru lle mae menywod yn cael eu grymuso i wireddu eu potensial, waeth beth yw eu cefndir, eu statws cymdeithasol na’u lleoliad daearyddol.

Mae’r dangosyddion a ddefnyddir yn yr adroddiad wedi cael eu dewis fel ffynonellau data cadarn sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd, er mwyn darparu asesiad eang ac o safon o gydraddoldeb rhyw yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y gall y data a ddarperir gennym yn adroddiadau Cyflwr y Genedl ddarparu cyfraniad pwysig i drafodaethau am gydraddoldeb yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol fod cyfyngiadau, ac mae’n hanfodol fod lleisiau menywod, yn enwedig menywod o gefndiroedd amrywiol, yn cael eu clywed a’u defnyddio ochr yn ochr â’r data hwn i lywio penderfyniadau.

Bob blwyddyn, byddwn yn ailymweld â’r dangosyddion allweddol hyn yn ein hadroddiadau Cyflwr y Genedl i asesu ein cynnydd tuag at Gymru decach lle gall menywod gyflawni a ffynnu.

Cyflwr y Genedl 2023

Gallwch ddarllen adroddiadau blynyddol Cyflwr y Genedl yma

Cyflwr y Genedl 2022

Gallwch ddarllen adroddiadau blynyddol Cyflwr y Genedl yma

Cyflwr y Genedl 2021

Gallwch ddarllen adroddiadau blynyddol Cyflwr y Genedl yma

Cyflwr y Genedl 2020

Gallwch ddarllen adroddiadau blynyddol Cyflwr y Genedl yma

Cyflwr y Genedl 2019

Gallwch ddarllen adroddiadau blynyddol Cyflwr y Genedl yma

24th Sep 2019
Gender Equality Review
Project