|
Gwaith Chwarae Teg gyda
Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd
Mae Chwarae Teg yn chwarae rhan weithgar yn natblygiad
Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd a Mentrau Cymunedol
yng Nghymru
trwy sicrhau bod cydraddoldeb yn parhau i fod ar frig yr agenda.
Gan
weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau cydraddoldeb blaengar
eraill a swyddogion Rhaglenni Ewropeaidd yng Nghymru,
rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd o’r Bartneriaeth
Cydraddoldeb Ewropeaidd, sy’n lobïo dros arferion
cydraddoldeb da yn y Cronfeydd Strwythurol.
Prif swyddogaethau’r
bartneriaeth hon yw:
- Dylanwadu ar ddatblygu cynnwys dogfennau’r
Rhaglen ar gydraddoldeb
- Eistedd fel ymgynghorwyr ar Bwyllgorau
Monitro Rhaglen / Byrddau Rheoli
- Ysgogi cydbwysedd rhwng
y rhywiau ar Bwyllgorau Cyllid Ewropeaidd
Cydnabu’r Comisiwn Ewropeaidd bod ein gwaith
yn rhagorol ac mae’r ddogfen INTERREG yn cael ei dosbarthu’n
awr i’r gwledydd newydd. I weld dogfennau’r Rhaglen,
ynghyd â dogfennau INTERREG a CHYDRADDOLDEB, ymwelwch â gwefan Swyddfa
Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Mae gwaith arall Chwarae Teg yn y maes hwn yn
cynnwys
- Hyfforddi aseswyr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd
Cymru, swyddogion Ewrop a swyddogion cydraddoldeb yr awdurdodau
lleol,
ac ymgynghorwyr
y sector gwirfoddol yn Ewrop.
- Ysgrifennu dwy set o ganllawiau
ynghylch cydraddoldeb, sy’n esbonio sut dylai prosiectau
fynd i’r afael â phrif-ffrydio
cydraddoldeb mewn perthynas â’r Cronfeydd Strwythurol
ac yn dangos sut dylai aseswyr ac ymgeiswyr ystyried cydraddoldeb
mewn ceisiadau. Cliciwch yma am gopi o’r canllawiau.
- Gweithio’n
agos gydag Uned Cydraddoldeb y Ddau Ryw dan Gynllun Datblygu
Cenedlaethol yr Adran Gyfiawnder,
Iwerddon i roi cymorth hyfforddiant ac i annog arferion da.
- Rheoli
e-rwydwaith ar gyfer arbenigwyr ac ymarferwyr cydraddoldeb
mewn Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ledled y
DU ac Iwerddon, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
ac Uned Cydraddoldeb y Ddau Ryw yr NDP. Cysylltwch â Chwarae
Teg os hoffech chi ymuno â’r rhwydwaith.
- Helpu
i sefydlu grwp cyllidebu’r ddau ryw yng
Nghymru - cysylltwch â'r Comisiwn
Cyfle Cyfartal am
ragor o fanylion
- Cyflwyno papurau ar brif-ffrydio
cydraddoldeb mewn cynadleddau fel aelodau o Rwydwaith Anffurfiol
Menywod ar Gyngor
Ewrop.
Amdanom ni | Prif
themau | Newyddion
a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map
y wefan | Swyddi
Hafan | English
|
|
Canllawiau Gofal Plant i Gyflogwyr |
Lansio Adnodd Newydd i Hyrwyddo Manteision Busnes Darpariaeth Gofal Plant.
Date: 01/11/2003
Location:
Cliciwch yma am fanylion pellach
|
|
Beth Sy'n Newydd |
Prosiect Newydd - Ready SET Go... Annog mwy o ferched i feysydd anhraddodiadol o hyffordiant a chyflogaeth. Gweithio gyda phartneriaid, cyflogwyr, addysgwyr ac ymgynghorwyr i leihau stereoteipio yn ol rhyw. Am mwy o wybodaeth cysylltwch a thim Ready SET Go ar 01267 232434
Cliciwch yma am fanylion pellach
| |
Beth Sy'n Newydd |
Mae Grwp Cyllidebu ar Sail Rhyw Cymru yn lawnsio cyhoeddiad newydd, y bwriad yw tynnu i ffwrdd y 'stigma' sydd o gwmpas cyllideb rhyw.
Cliciwch yma am fanylion pellach
| |
Beth Sy'n Newydd |
Beth sydd ymlaen Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i weld pa gyrsiau hyfforddi a gweithgareddau sydd ar y gweill. Ffoniwch yn rhad ac am ddim ar 0800 052 2255 i siarad ag aelod o'ch tîm lleol
| |
Beth Sy'n Newydd |
Ein nôd ni fel cwmni yw i adnabod, mesur a helpu i ddelio a’r mater o fwlch cyflog yng Nghymru ac i rannu modelau arfer da trwy gydol Cymru, Prydain ac Ewrop. Am mwy o fanylion cysylltwch a 01248 670111
Cliciwch yma am fanylion pellach
| |
|