Noddwr Womenspire 2020 Hodge bank

15th April 2020

Dywedwch wrthym am eich sefydliad

Mae Hodge yn fusnes gwasanaethau ariannol annibynnol yng Nghaerdydd, sy’n cynnig amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau. Gall Hodge olrhain ei hanes mor bell yn ôl â’r 1960au pan sefydlwyd y busnes gan y diweddar Syr Julian Hodge, sy’n cael ei gydnabod fel yr un a sbardunodd y gwaith o osod seiliau’r maes gwasanaethau ariannol llwyddiannus ar draws De Cymru.

Mae Hodge yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion cynilo personol i gwsmeriaid preifat a chleientiaid masnachol, yn ogystal â benthyca i gleientiaid masnachol ledled y wlad. Mae’r busnes hefyd yn darparu morgeisi arbenigol mewn marchnadoedd arbenigol gan gynnwys rhai ar gyfer cyfnod diweddarach eich bywyd ac ar gyfer rhyddhau ecwiti.

Sefydliad Hodge, elusen sy’n cefnogi amrywiaeth o achosion lles, meddygol ac addysgol, sy’n berchen ar 79% o Hodge.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan Hodge, www.hodgebank.co.uk.

Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?

Mae Hodge yn frwd dros gefnogi a chydnabod y gwerth cyfraniad menywod i’r gymdeithas, ac yn enwedig yn y gweithle.

Rydyn ni’n gwybod bod menywod yn gallu ac yn gwneud gwahaniaeth, rydyn ni’n gweld hyn bob dydd yn Hodge drwy’r arweinyddiaeth eithriadol ac ansawdd y gwaith y mae ein gweithwyr yn ei gyflawni er mwyn ein cwsmeriaid. Mae cydnabod a meithrin dawn yn rhan o’n hethos fel busnes ac mae’n hanfodol i’n strategaeth.

Mae noddi’r categori Seren Ddisglair yn Womenspire yn gyfle gwych i ni barhau i gefnogi’r rôl y bydd menywod yn dal i’w chwarae wrth sicrhau llwyddiant ym maes busnes.

Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?

Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i Hodge, gan ein bod yn credu o ddifrif bod pobl ar eu gorau pan gânt y cyfle i ddisgleirio.

Mae ymchwil byd-eang gan Fforwm Economaidd y Byd, ymchwil genedlaethol gan Swyddfa Gydraddoldebau’r Llywodraeth, a chanfyddiadau mwy rhanbarthol gan Chwarae Teg yn dangos manteision go iawn hyrwyddo cyfleoedd i bawb, yn enwedig yn y gweithle.

Mae creu amgylchedd lle gall pawb ffynnu a chyflawni eu potensial yn greiddiol i Hodge. Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf dros y blynyddoedd nesaf ac mae ein pobl yn allweddol er mwyn sicrhau’r llwyddiant hwnnw. Bydd meithrin cydraddoldeb a chreu amgylchedd sy’n cefnogi ac yn datblygu’r menywod yn Hodge yn hanfodol i’n dyfodol.

Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?

Mae gan Hodge ddull unigryw o ran ei fentrau amrywiaeth a chynhwysiant gan ei fod yn cael ei hyrwyddo a’i redeg gan dîm o weithwyr brwd sydd am greu’r amgylchedd gwaith gorau ar gyfer eu cydweithwyr.

Enw’r tîm yw Wonder. Mae Wonder yn grymuso’r menywod yn Hodge trwy ddarparu cyfleoedd cyfartal, annog addysg, mentora a rhwydweithio - gan ysgogi newid diwylliannol ar draws y busnes.

Mae nod Chwarae Teg - sef sicrhau bod menywod yng Nghymru yn gallu ymuno â’r gweithle, datblygu eu sgiliau ac adeiladu gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad iddynt - yn cyd-fynd â’r ffordd rydyn ni’n cefnogi cydraddoldeb yn Hodge.