Celtic English Academy yw’r cwmni sector preifat cyntaf a’r sefydliad BBaCh cyntaf i ennill ‘Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg Safon Aur’ gan yr arbenigwyr gweithio cynhwysol yn Nhîm Cyflogwr Chwarae Teg yn Chwarae Teg.
Fel sefydliad lleol, Cymreig, sy’n gweithio’n rhyngwladol, mae’r Academy wedi bod yn tyfu ers iddo gael ei sefydlu yn 2004. Mae perchennog-gyfarwyddwr yr Academy, James Doherty, bob amser wedi dymuno atgyfnerthu sylfaen y cwmni yn seiliedig ar “ansawdd, cysondeb a thegwch i bawb”.
Cyn y pandemig, dechreuodd yr ysgol iaith Saesneg ar ei thaith Cyflogwr Chwarae Teg drwy Raglen Fusnes Cenedl Hyblyg 2 sy’n cael ei redeg gan Chwarae Teg a’i hariannu’n llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Ar ddiwedd 2020 fe wnaethant barhau â’u cefnogaeth drwy danysgrifio i Wobr Cyflogwr Chwarae Teg, gan gael cymorth ymgynghori pwrpasol gan dîm datrysiadau Cyflogwr Chwarae Teg, a wnaeth gefnogi trawsnewid y diwylliant sefydliadol, gan yrru’r Academy i gyrraedd y safon Aur.
Roedd yr angen i weithio o adref yn ystod pandemig Covid 19 yn newydd ac yn heriol i’r Academy. Hyd yn oed yn y misoedd a’r wythnosau cyn i gyfyngiadau’r DU ddod i rym, pan fu’n rhaid symud eu holl addysgu ar-lein dros nos, roedd yr Academy’n delio â chansliadau, gohiriadau, a myfyrwyr yn dychwelyd mor sydyn â phosib i’w gwledydd cartref. Fel sefydliad sy’n gweithio gydag ymwelwyr rhyngwladol, fel arfer o 50 cenedl wahanol bob blwyddyn, roedd y pandemig wedi taro’n galed ar y sector twristiaeth addysgol yn enwedig. Ac eto, drwy’r cyfnod argyfwng hwn, gyda’r holl newidiadau yr oedd yn rhaid eu gwneud, gwelsant gyfle i fynd ymhellach - i fod yn sefydliad mwy cynhwysol ac amrywiol, gyda chyfathrebu mwy effeithiol ac arferion gwaith gwell. Diolch i Dîm Cyflogwr Chwarae Teg, bu i’r Academy osod amgylchedd gwaith hyblyg, yn ogystal â gwella cyfathrebu a chefnogi lles. Mae’r ffordd newydd o weithio yn cynyddu cynhyrchiant, ymreolaeth ac ymroddiad, gan greu amgylchedd gwaith cadarnhaol yn gyffredinol.