Gwahaniaethu cynnil, anuniongyrchol yn erbyn grŵp ar yr ymylon. Microymosodiadau yn y gweithle.

18th August 2021

Gwahaniaethu cynnil, anuniongyrchol yn erbyn grŵp ar yr ymylon. Microymosodiadau yn y gweithle.

Disgrifir microymosodiad gan y rhai sydd wedi ei wynebu fel ‘marwolaeth gan fil o friwiau,’ ac mae’n chwarae rhan ym mywydau cymaint o bobl yn y gweithle. Mae’n anoddach ei nodi, yn anoddach ei herio, yn aml ddim yn cael ei glywed gan y gwrandäwr achlysurol, ond mae’n niweidiol iawn i’r rhai sy’n ei dderbyn. Yn yr erthygl hon mae ein tîm busnes yn archwilio’r cysyniad, yr effeithiau a’r hyn y gall gweithleoedd ei wneud i’w atal rhag digwydd.

Beth yw microymosodiadau?

Mae llawer o dermau newydd wedi ymddangos yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf - un o’r rhain yw ‘microymosodiad’. Mae’n cael ei ddefnyddio’n gyffredin yn ddiweddar i ddisgrifio hiliaeth yr oes hon, ond a ydych chi erioed wedi ystyried y gallai gael ei ymestyn i anabledd, rhywedd ac oedran?

Mae’r Oxford Dictionaries yn ei ddisgrifio fel,

a statement, action, or incident regarded as an instance of indirect, subtle, or unintentional discrimination against members of a marginalized group such as a racial or ethnic minority.

Gan fod microymosodiadau yn aml yn cael eu mynegi trwy iaith, mae’n bwysig iawn rhoi sylw i’r ffordd rydym ni’n siarad, yn enwedig yn y gweithle ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol eraill. Gall microymosodiadau ymddangos mor amwys, gan y gall y geiriau’n aml edrych a swnio’n ganmoliaethus ac yn gadarnhaol. Fodd bynnag, gall y derbynnydd deimlo wedi’i sarhau ond heb wybod sut i ymateb heb wneud y sefyllfa’n anghyfforddus.

“Mae’r ffordd rwyt ti wedi goresgyn dy anabledd mor ysbrydoledig.”

Os yw cydweithiwr yn anabl, ceisiwch osgoi ymadroddion fel dweud wrtho bod ei anabledd yn ysbrydoledig neu ei osgoi trwy gyfeirio at ei anabledd fel ‘angen arbennig’.

“Bechgyn yw bechgyn.”

Mae’r ymadrodd hwn yn aml wedi’i gyfeirio at ddynion yn ogystal â bechgyn, a’r broblem yw ei fod yn awgrymu bod rhai ymddygiadau yn natur ddynol i fechgyn ac nad oes ganddyn nhw hunanreolaeth nac unrhyw gyfrifoldeb dros eu hymddygiad.

“Rwyt ti mor weithgar am dy oedran.”

Mae ‘canmoliaeth’ fel hyn yn anfon neges glir iawn bod gennych chi ddisgwyliadau eithaf isel gan rywun yn seiliedig ar ddim ond ei oedran.

Mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau o ragfarnau sydd wedi hen ymwreiddio ac sy’n aml yn gwneud i dderbynwyr deimlo’n anghyfforddus neu wedi’u sarhau.

Beth yw effaith microymosodiadau?

Rhaid rhoi sylw i ficroymosodiadau er mwyn i ddiwylliant gwaith cadarnhaol a chynhwysol ffynnu. Un o’r ffyrdd gorau o leihau digwyddiadau o microymosodiadau yn y gweithle yw cymryd cam yn ôl yn gyntaf i ddatgymalu a mynd i’r afael yn drylwyr ag ambell fyth cyffredin. Dyma fythau microymosodiadau y dylai pawb fod yn ymwybodol ohonyn nhw.

Os nad oeddwn yn bwriadu unrhyw niwed, siawns nad microymosodiad mohono?

Mae hyn yn ymwneud â’r effaith ac nid y bwriad. Mae llawer o bobl yn tybio, oherwydd bod eu bwriadau’n dda, na ellid ei ystyried yn ficroymosodiad - mae hyn yn anghywir. Dyma pam ei bod mor bwysig cysylltu â rhywun os ydych chi’n teimlo y gallen nhw fod wedi eu tramgwyddo neu eu drysu gan rywbeth a ddywedoch neu a wnaethoch. Os do, nid yw’n golygu eich bod yn berson drwg, ond gallai roi cyfle ichi archwilio’ch ymddygiad neu’ch prosesau meddwl ac ystyried gwneud newidiadau yn y dyfodol. Os bydd rhywun yn nodi ei fod wedi’i dramgwyddo - ymddiheurwch. Mae ymddiheuriad dilys syml yn siarad cyfrolau.

A wnes i gyflawni microymosodiad heb ddweud na gwneud unrhyw beth?

Weithiau nid oes angen geiriau na gweithredoedd ar microymosodiadau. Un o’r microymosodiadau mwyaf rhwystredig i lawer o bobl yw cael eu hanwybyddu neu eu hesgeuluso. Byddwch yn rhagweithiol a dwyn i gof/atgyfnerthu cyfraniadau rhywun mewn cyfarfod, defnyddio ei enw ef/ei henw hi a rhoi’r clod iddo ef/iddi hi am y syniad.

Os na wnaethon nhw ddweud unrhyw beth, mae’n rhaid na chawson nhw eu tramgwyddo?

Rhan o’r rheswm pam y gall microymosodiadau fod yn gymaint o straen yw eu bod yn aml yn cael eu hystyried gan y derbynnydd fel rhai rhy fach i ddweud unrhyw beth amdanyn nhw felly maen nhw’n aml yn cael eu diystyrru, ond mae’r effaith gronnus yn adeiladu yr un fath.

Microymosodiadau ac anabledd

Mae pobl ag anableddau yn aml yn cael eu hystyried naill ai’n hynod ac yn arwrol neu’n ddioddefwyr ac yn druenus. Mae’r ystrydebau hyn yn gyfyngol iawn a gallan nhw arwain at ôl-effeithiau difrifol i’r gymuned anabl a sut maen nhw’n gweld eu hunain.

Y canfyddiad anffodus, mwyaf cyffredin o’r ddau yw erledigaeth, lle mae pobl ag anableddau yn aml yn cael eu hystyried yn aelodau diymadferth o gymdeithas gyda phobl yn ‘gorfodi’ eu cymorth arnyn nhw hyd yn oed os na fyddan nhw’n gofyn amdano.
Yn union fel unrhyw hunaniaeth gymdeithasol arall, mae profiad a galluoedd pob unigolyn yn wahanol iawn i’r person nesaf o ran anabledd.

Ymagwedd well

“Alli di sôn rhagor, os gweli di’n dda?”

“Helpa fi i ddeall dy safbwynt”

Mae hyn yn dangos tosturi a chwilfrydedd. Mae dangos parodrwydd i ddysgu ac addysgu ein hunain yn allweddol er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo’n rhan o’r diwylliant ac yn perthyn. Os ydym ni’n clywed rhywun yn dweud rhywbeth sy’n enghraifft o ficroymosodiad, dylem ni deimlo’n hyderus i’w herio yn ddiogel.

Wrth inni ddwyn y drafodaeth hon i ben, hoffwn ichi ystyried hyn yn ehangach. Er y gall microymosodiad achosi niwed, nid yw o reidrwydd yn sefyllfa na ellid ei adfer, felly peidiwch â bod ofn cydnabod camgymeriadau a gweithio trwyddyn nhw.

Er efallai na fydd y bwriad yn penderfynu a yw rhywbeth yn cael ei ystyried yn dramgwyddus, gall bwriad cadarnhaol fod yn bwysig iawn ar gyfer y broses adfer. Mae angen rhywfaint o fregusrwydd, ond gall hefyd fod yn gam cyntaf mewn perthynas lawer mwy dilys, mwy iach a pharchus â’ch cydweithwyr.