Bore ma, bues i’n siaradwr gwadd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn ardal Cathays, Caerdydd yn trafod rhaglen arweinyddiaeth Springboard a ddarperir gan Academi Wales ar gyfer menywod. Mae hwn yn brofiad na fyddwn o bosib wedi ei gael oni bai am ‘Womenspire’ a’r sylw a roddodd i’m taith ac i minnau yn 2019.
Fis Mawrth 2019, derbyniais e-bost gan Chwarae Teg yn dweud “Rydych wedi cael eich enwebu ar gyfer gwobr Womenspire”. Womenspire, glynodd y gair ataf i. Rwyf wedi cael fy enwebu am nifer o wobrau am fy nghyfraniad i’r gwaith ac i’m proffesiwn, ond feddyliais i erioed am fy nhaith fel un a fyddai’n ‘ysbrydoli menywod’. Yn uchelgeisiol? Ydw. Yn wydn ac yn bendant? Ydw. Ond yn ysbrydoledig? Yn werth rhannu? Mae hynny’n rhywbeth doeddwn i erioed wedi meddwl amdano.
I fi, mae dyfalbarhau a pheidio â gadael i heriau fy nhrechu nac i fethiannau fy niffinio i, yn ffordd o fyw. Gwnaeth fy enwebiad, ac wedyn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol, wneud i mi stopio a myfyrio ar fy nhaith, a’r effaith mae wedi’i chael arnaf i, ac ar y bobl o’m cwmpas.
Siarad â phanel y beirniaid oedd uchafbwynt y daith Womenspire gyfan. Rhennais i bethau gyda nhw doeddwn i ddim wedi’u rhannu o’r blaen, ac roedd diddordeb ganddynt mewn clywed yr hyn oedd gen i i’w ddweud. Roeddent yn gwerthfawrogi fy nghyfraniad fel aelod o gymdeithas, fel menyw, a gwnaethon nhw i fi deimlo fod yr hyn rwy’n ei wneud wir yn cyfri a’i fod yn gwneud gwahaniaeth.
Gwnaeth cyrraedd y rownd derfynol i fi deimlo’n wylaidd tu hwnt. Trwy gael fy ffilmio yn rhan o’r broses, cefais fy ysbrydoli fwy nag erioed i rannu fy nhaith a gadael i bob menyw arall gysylltu â hi. Roeddwn i eisiau rhannu’r neges â merched ifanc ei bod hi’n iawn os yw eich breuddwydion yn codi arswyd arnoch chi, mae hynny oherwydd eu bod nhw’n fawr! Roeddwn i eisiau rhoi gwybod i’r holl fenywod sy’n ceisio cydbwyso bywyd teuluol â’u gyrfa eu bod nhw’n gwneud hynny’n gywir oherwydd eu bod nhw’n symud tuag at eu nod. Roeddwn i eisiau i’r holl fenywod sydd â phŵer a statws i gofio bod llawer o fenywod o’n cwmpas sy’n gweithio’n ddiflino ac sy’n ceisio gwireddu eu breuddwydion, ac os gallan nhw oleuo’r llwybr rywfaint bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth.
Roedd pobl yn fy mywyd personol a phroffesiynol nad oeddent yn gwybod am nifer o rannau o’m stori, a gwnaeth fy ffilm gyda Womenspire fyd o wahaniaeth iddyn nhw. Es i ymlaen i wneud darn gydag ITV Cymru, a aeth ar y teledu, a dyna ddechrau cadwyn o ddigwyddiadau. Ces i e-byst, trydariadau, negeseuon a chardiau gan ffrindiau, teulu, cymdogion, cydweithwyr a chleifion yn dweud wrthyf pa mor falch ohonof i oedden nhw.
Roedd yn ysbrydoledig tu hwnt i weld yr holl fenywod uchel eu clod hynny yn Amgueddfa ysblennydd Sain Ffagan ar y noson wobrwyo.
Fel rhiant i blentyn saith oed, dyw hi ddim yn hawdd cynllunio ar gyfer digwyddiadau gyda’r hwyr lle nad oes croeso i blant. Ychydig ddyddiau cyn y seremoni wobrwyo sylweddolais mai ofer oedd fy holl ymdrechion i drefnu gofal plant. Eisteddais wrth ochr fy mab un noson a dweud wrtho efallai na fyddwn i’n gallu mynd oherwydd doedd neb gen i ofalu amdano. Dywedodd, “mae hynny’n drist, byddwn i wrth fy modd yn dy weld di’n ennill dy wobr nesaf”. Gwenais a dywedais, “wyt ti’n meddwl bydda i’n ei chael hi?” “wrth gwrs byddi di” dywedodd, “a chofia, hyd yn oed os nad wyt ti, yr ymdrech sy’n cyfri”. Ydy, mae’n saith blwydd oed!
Rhoddodd y sgwrs hon syniad i fi a gofynnais i Chwarae Teg a allwn i ddod ag ef, ac er mawr syndod i mi yr ateb pendant oedd “Ie, pam lai. Dewch ag e”.
Pe bai’n rhaid i mi ddewis un foment pan ddangosodd Chwarae Teg eu hangerdd go iawn dros gefnogi menywod, y foment hon oedd hi. Nid yn aml ydw i’n gweld sefydliad yn gwireddu ei honiadau o gefnogi menywod a bod yn gynhwysol. Dwi’n cymeradwyo Chwarae Teg am gydnabod y ffaith na ddylai bod yn fam i blentyn ifanc fod yn rhwystr ar lwybr menyw, boed hynny’n ymwneud â gwireddu ei breuddwydion neu’n ennill gwobr am wneud hynny!
Mae’n fraint gen i fod wedi ennill Seren Ddisglair Womenspire 2019 ac rwy’n ei weld fel catalydd wrth drawsnewid o fod yn gynrychiolydd mewn gweithdy arwain, i fod yn siaradwr mewn digwyddiad arwain yn Academi Wales.
Byddwn i’n eich annog i enwebu nid dim ond un fenyw, ond yr holl fenywod o’ch cwmpas sydd wedi mynd uwchlaw a thu hwnt i’r hyn a ddisgwylir ohonynt yn eich barn chi. Y rhai na roddodd y ffidil yn y to, y rhai a ddyfalbarhaodd yn wyneb anawsterau, y rhai a gredodd ynddynt eu hunain neu mewn eraill, y rhai a freuddwydiodd yn fawr, y rhai a glywodd y neges nad yw popeth ar gael iddynt, y rhai a gefnogodd eu hunain neu a gefnogodd eraill i wireddu eu breuddwydion, gallai eich enwebiad chi wneud pob gwahaniaeth i’w stori nhw!
Ysbrydoli a chael eich ysbrydoli!