Mae’n bleser gen i i’ch croesawu i seithfed seremoni Gwobrau Womenspire Chwarae Teg, seremoni sy’n arddangos ac yn tynnu sylw at gyflawniadau anhygoel menywod o bob cwr o Gymru!
Rydym yn fyw yn adeliad arbenning y Pierhead ym Mae Caerdydd ac yn fyw yn ystafelloedd fyw, diolch i’n partneriaid yn y cyfryngau, ITV Cymru Wales, a’r llu o noddwyr sy’n ein cefnogi eleni, gan gynnwys ein prif noddwyr – Vauxhall Finance.
Gyda’n gilydd, trwy ein Womenspire hybrid cyntaf, byddwn yn dod â noson epig i chi o straeon ysbrydoledig ac adloniant ac yn ddathlu teilyngwyr Womenspire 2022 mewn steil!
Wrth i ni ddathlu ein 30ain blwyddyn yn Chwarae Teg mae ein gweledigaeth yn aros yr un fathe, sef Cymru decach lle gall pob menyw gyflawni a ffynnu, a phob dydd rydym yn gweithio er mwyn ysbrydoli, arwain a chyflawni cydraddoldeb rhywedd.
Rydym eisiau grymuso menywod i gyrraedd eu llawn botensial ac i fod yr un mor llwyddiannus, yr un mor weladwy a’r un mor ddylanwadol â dynion, ar draws pob sector o’r economi, o gymdeithas a bywyd cyhoeddus, waeth beth fo’u cefndir, eu statws cymdeithasol neu eu lleoliad.
Rydym wediparhau i gael effaith wirioneddol dros y flwyddyn ddiwethaf drwy ein rhaglenni, ein hymchwil, ein mentrau a’n digwyddiadau. Rydym wedi gweithio gyda channoedd o fenywod a busnesau drwy raglen Cenedl Hyblyg 2, ein gwasanaeth Cyflogwr Chwarae Teg a phrosiectau cydweithredu.
Mae ein gwaith i gyd yn sicrhau ein bod yn gweithio tuag at ddyfodol lle bydd menywod, dynion a phobl anneuaidd yn cael canlyniadau cyfartal yn eu bywydau, ac mae hyn yn bwysicach nawr nag erioed. Mae Womenspire yn ddathliad gwirioneddol o lwyddiannau rhyfeddol yng Nghymru ac yn arddangos y rhai sydd fwyaf haeddiannol o ganmoliaeth.
Mae pawb sydd wedi’u henwebu a’u rhoi ar y rhestr fer fel teilyngwyr yn gyfrifol am newid bywydau er gwell. Gallwn ond canolbwyntio ar ran fach o’r hyn y mae’r unigolion anhygoel hyn yn ei wneud ac mae eu cryfderau a’u dewrder yn ddibendraw.
Byddwn yn gwobrwyo enillwyr heno, ond mae pob un o’r teilyngwyr wedi gwneud cyflawniad gwych, ac mi fyddan nhw’n ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Maen nhw’n esiamplau arbennig a fydd yn helpu i lunio’r dyfodol ac yn arwain y ffordd i eraill, o ganlyniad i’w gwaith caled a’u hymroddiad.
Yn ogystal â’n 10 categori ar gyfer menywod mae gennym hefyd wobr i fusnes neu sefydliad sy’n gweithio gyda ChwaraeTeg drwy ein gwasanaeth Cyflogwr ChwaraeTeg - gan gymryd camau i wella amrywiaeth a galluogi menywod i symud ymlaen a ffynnu yn y gweithle.
Pob lwc i chi gyd. Mwynhewch y noson, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a’i wneud yn ddathliad go iawn, a chofiwch – nid rhywbeth fyddai’n braf i’w gael yw cydraddoldeb rhywedd ond rhywbeth sy’n rhaid ei gael!
Cerys x